Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cwmpasu poblogaeth o tua 390,000 yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 12,500 o staff. Mae ganddo dri ysbyty mawr sy’n darparu ystod o wasanaethau: Treforys a Singleton yn Abertawe, ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Maglan, Port Talbot.

Mae Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn gwasanaethu de a chanolbarth Cymru a de-orllewin Lloegr. Mae Treforys hefyd yn darparu un o ddau wasanaeth llawdriniaeth gardiaidd yng Nghymru. Mae gwasanaethau arbenigol eraill yn cynnwys gwefus a thaflod hollt, arennol, ffrwythlondeb a bariatrig (gordewdra). Mae’r Uned Ymchwil Glinigol ar y Cyd hunan-ariannu yn cynnal astudiaethau masnachol ac yn cydweithio’n agos รข chanolfannau eraill mewn meysydd iechyd allweddol sy’n cynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes a chlefyd arennol.