Dymunwn wella iechyd a gofal cymdeithasol i bobl yng Nghymru

Decorative graphic

Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru yn bodoli i ddod â phobl at ei gilydd. Credwn y gall eich syniadau a’ch heriau helpu i siapio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i feithrin datrysiadau arloesol sy’n gwella deilliannau iechyd a gofal cymdeithasol. P’un a ydych yn datblygu technolegau newydd, yn gwella gwasanaethau, neu’n symbylu ffyrdd newydd o feddwl, rydym yma i’ch cefnogi ar bob cam o’ch taith arloesi.

Arweinwyr Arloesedd

Hyrwyddwyr arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru yw’r Arweinwyr Arloesedd. Maent yn cydweithio ag arbenigwyr o wahanol sectorau i symbylu mabwysiadu syniadau a thechnolegau newydd sy’n gwella gofal cleifion ac yn gwella darpariaeth gwasanaethau. Gan weithio’n agos ag asiantaethau’r Llywodraeth, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol. diwydiant, a’r byd academaidd, maent yn hwyluso rhannu gwybodaeth ac yn arwain prosiectau trwy bob cam o’r broses arloesi. Eu nod yw darparu datrysiadau effeithiol sydd o fudd i Gymru.

Fframwaith

Mae’r Fframwaith Arloesedd yn ddull strwythuredig o ymdrin â chefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n arwain timau trwy bob cam o’r broses arloesi, o nodi heriau a chynhyrchu syniadau i ddatblygu, profi ac ehangu datrysiadau. Gan ddefnyddio offer a dulliau sydd wedi’u profi, mae’r Fframwaith yn sicrhau bod datblygiadau arloesol yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol. Mae’r Fframwaith yn annog cydweithio, yn cefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, ac yn hyrwyddo dysgu a gwelliant parhaus.

Newyddion a Digwyddiadau

Dysgwch am y datblygiadau diweddaraf o ran arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein hadran Newyddion a Digwyddiadau yn tynnu sylw at y prosiectau blaengar sy’n siapio dyfodol gofal iechyd yng Nghymru. O ymchwil arloesol i straeon llwyddiant, rydym yn darparu gwybodaeth fewnol am y datblygiadau arloesol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae ein digwyddiadau yn cynnig cyfleoedd i gysylltu ag arweinwyr diwydiant, dysgu gan arbenigwyr, a chydweithio ar syniadau newydd. P’un a ydych chi’n arloeswr ynteu’n weithiwr gofal iechyd proffesiynol, mae ein digwyddiadau’n eich hysbysu a’ch ysbrydoli.

Banc Gwybodaeth

Mae’r Banc Gwybodaeth yn ganolbwynt adnoddau a ddyluniwyd i gefnogi eich taith arloesi. O becynnau cymorth a thempledi i astudiaethau achos a chanllawiau arfer gorau, mae’r Banc Gwybodaeth yn darparu popeth sydd ei angen arnoch i ddatblygu datrysiadau effeithiol a’u rhoi ar waith. P’un a ydych chi newydd ddechrau ynteu’n ehangu prosiect sydd eisoes yn bodoli, fe gewch chi wybodaeth fewnol werthfawr i arwain eich ymdrechion. Drwy rannu’r ymchwil diweddaraf a straeon llwyddiant, rydym yn helpu i sicrhau bod tystiolaeth a phrofiad yn symbylu arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Beth mae'r Fframwaith Arloesedd yn ei wneud?

Mae’r Fframwaith Arloesedd yn cyflwyno gweithgareddau mewn trefn, ac felly’n darparu canllawiau ar sut y gallai’r GIG a gofal cymdeithasol fynd i’r afael â gweithgareddau arloesi, gan weithio’n gydlynol â’u cynllun busnes neu eu Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP). Felly, mae’n darparu strwythur i sefydliadau’r GIG a Gofal Cymdeithasol adeiladu eu prosesau a’u gweithgareddau eu hunain.

Yn ogystal, mae’r llwybr yn offeryn ar gyfer ymgysylltu â diwydiant, gan roi neges glir i fusnesau mai Cymru yw’r lle i ddod â’u datblygiadau arloesol. Bydd y llwybr yn annog ystyried mabwysiadu, a strategaethau cyflwyno yn y dyfodol, yn gynharach wrth ddatblygu’r prosiect, er mwyn sicrhau bod y data sy’n ofynnol i ddarparu gwybodaeth ar gyfer mabwysiadu ar gael pan fo’i hangen.

  • Mae’n disgrifio’r sector, gan ddeall pwy yn yr ecosystem all eich helpu.
  • Yn mapio ein hadnoddau, sgiliau, a mannau go iawn.
  • Yn osgoi dyblygu.
  • Yn nodi bylchau lle mae cefnogaeth a lle mae angen alinio adnoddau.
  • Yn cynorthwyo cydweithrediad â diwydiant, prifysgolion, a’r trydydd sector.
  • Yn cyflwyno ein hasedau i gyflymu arloesedd.
  • Yn arwain ac yn ysgogi arloesedd mewn lleoliadau Gofal Cymdeithasol, Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd.
  • Fframwaith cyffredin i adeiladu prosesau arloesi, llywodraethu a chynlluniau.
  • Yn y GIG, i ddatblygu a chynnal statws Bwrdd Iechyd Prifysgol.

Cymorth a gwybodaeth i gefnogi eich taith ar hyd y Fframwaith Arloesedd

Graphic

Cyngor a
Cefnogaeth

Darparwn fynediad at gyngor a chymorth i helpu i arwain eich arloesedd drwy’r Fframwaith Arloesedd, o’r syniad cychwynnol i’r gweithredu. P’un a ydych ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, mae ein tîm yn cynnig arweiniad wedi’i deilwra i’ch helpu i oresgyn heriau, archwilio cyfleoedd newydd, a throi eich syniadau yn ddatrysiadau effeithiol. Gyda mynediad at gyngor arbenigol a chyfoeth o adnoddau, rydym yn sicrhau eich bod yn hollol gymwys i lwyddo.

Cyllid a
Grantiau

Rydym yn helpu i gysylltu arloeswyr â’r cyfleoedd ariannu cywir i ddod â’u prosiectau iechyd a gofal cymdeithasol yn fyw. O grantiau bach i ffrydiau ariannu mwy, mae ein tîm yn helpu i nodi cymorth ariannol, a gwneud cais amdano, i sicrhau bod eich datblygiad arloesol yn meddu ar yr adnoddau sy’n ofynnol iddo lwyddo. Rydym yn cefnogi ar bob cam o’r ffordd, gan wneud y broses yn llyfnach ac yn fwy hygyrch.

Offer, Canllawiau a
Templedi

Mae ein llyfrgell gynhwysfawr o offer, canllawiau a thempledi wedi’i dylunio i’ch cefnogi wrth ddatblygu datrysiadau arloesol, a’u rhoi ar waith. P’un a oes angen help arnoch â chynllunio prosiect, mapio prosesau, ynteu werthuso canlyniadau, mae ein hadnoddau’n darparu arweiniad cam wrth gam i sicrhau bod eich arloesiadau iechyd a gofal cymdeithasol wedi’u strwythuro’n dda, yn effeithiol a gellir eu hehangu.

Hyfforddiant a
Datblygiad

Rydym yn cynnig mynediad at amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu, i helpu i feithrin y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer arloesi llwyddiannus. O weithdai a gweminarau i raglenni hyfforddi manwl, mae ein hadnoddau wedi’u dylunio i roi’r wybodaeth a’r arbenigedd gofynnol i unigolion a thimau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn symbylu arloesedd. Ein nod yw eich grymuso â’r sgiliau i greu effaith barhaol.

Newyddion a
Digwyddiadau

O ymchwil arloesol i straeon llwyddiant, rydym yn darparu gwybodaeth fewnol am y datblygiadau arloesol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae ein digwyddiadau’n cynnig cyfleoedd i gysylltu ag arweinwyr diwydiant, dysgu oddi wrth arbenigwyr, a chydweithio ar syniadau newydd. P’un a ydych chi’n arloeswr ynteu’n weithiwr gofal iechyd proffesiynol, mae ein digwyddiadau’n eich hysbysu a’ch ysbrydoli.

Rhaglenni a
Mentrau

Rydym yn hyrwyddo rhaglenni a mentrau sy’n cefnogi arloesi a mabwysiadu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Y Fframwaith Arloesedd

Cliciwch yma

Newyddion a Digwyddiadau

Decorative Graphic
Matthew Davies, a Team Manager at Merthyr Tydfil Children’s Service Entrepreneur o Gymru yn lansio ap i gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol
Mae gweithiwr cymdeithasol o Flaenau Gwent wedi creu ap arobryn gyda’r potensial i chwyldroi gwasanaethau cymdeithasol sy’n gweithredu yng Nghymru…

10 Mawrth 2025

BioCymru Yn Llundain - 12fed Mawrth 2025
BioCymru yn Llundain yw arddangosfa gwyddor bywyd a gofal iechyd Cymru. Mae’n darparu llwyfan unigryw ar gyfer arloesiadau newydd cyffrous…

09 Mawrth 2025

Anadlu’n Haws: Ateb Arobryn Cymru i Leihau Allyriadau’r GIG
Mae cyllid gan Ganolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) ac Arloesedd Iechyd Llywodraeth Cymru, wedi galluogi timau clinigol ledled…

11 Mawrth 2025

Ewch â fi at y Fframwaith Arloesedd

Cliciwch yma

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth

Cliciwch yma