Mae ein Harweinwyr Arloesedd yn cynnig ystod eang o help ac arbenigedd
Siôn Charles
Pennaeth Strategaeth a Chynllunio Gwasanaeth
Mae gan Siôn dros 20 mlynedd o brofiad yn arwain…
Siôn Charles
Mae gan Siôn dros 20 mlynedd o brofiad yn arwain rhaglenni arloesi, gwella a thrawsnewid. Mae’n angerddol am ddarparu gwasanaethau blaengar sy’n blaenoriaethu gofal cleifion ac yn ymgorffori gwerthoedd iechyd a gynhyrchir ar y cyd.
Mae Siôn yn brofiadol yn gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau ac amgylcheddau cymhleth mewn partneriaethau lluosog ac weithiau heriol gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i gyflawni strategaethau, gwasanaethau, prosiectau, rhaglenni a gwelliannau gwasanaeth llywodraeth genedlaethol.
Mae ei brofiadau yn cynnwys arwain cydweithrediadau a phartneriaethau aml-sefydliad cymhleth, datblygu strategaeth a pholisi cenedlaethol, newid systemau a threfniadol, ac adeiladu ac arwain rhwydweithiau i gydweithio o amgylch nodau cyffredin.
Arweiniodd Siôn waith i ddatblygu Fframwaith Arloesedd GIG Cymru – dull systematig o greu a rheoli systemau a dulliau arloesi.
E-bost: ARCH.PMO@wales.nhs.uk
Stephanie Griffith
Rheolwr Arloesi, Gofal Cymdeithasol Cymru
Rwy’n gweithio mewn maes gwaith newydd cyffrous i ddatblygu ein…
Stephanie Griffith
Rwy’n gweithio mewn maes gwaith newydd cyffrous i ddatblygu ein cefnogaeth ar gyfer arloesi mewn gofal cymdeithasol.
Mae’r meysydd rwy’n eu rheoli yn canolbwyntio ar adeiladu partneriaethau cydweithredol, cymunedau ar gyfer ymarferwyr ac archwilio arloesedd digidol.
Ymhlith fy rolau blaenorol mae gwaith cymdeithasol awdurdodau lleol a gweithio yn y trydydd sector i gefnogi iechyd meddwl menywod, ac arwain tîm o weithwyr cymorth iechyd meddwl.
Es ymlaen i weithio ym maes datblygu gwasanaethau i awdurdod lleol o ran amrywiaeth eang o weithgareddau. Roedd y rhain yn cynnwys taliadau uniongyrchol, gofal ychwanegol ac adolygiad o wasanaethau iechyd meddwl yn yr ardal.
Bûm yn gweithio i Gofal Cymdeithasol Cymru ers ei ddechrau yn 2017. Cyn hynny roeddwn i’n gweithio i’r Cyngor Gofal, gan ganolbwyntio’n bennaf ar gymwysterau a safonau.
Rwy’n weithiwr cymdeithasol cymwysedig, ar ôl cwblhau MA ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2000.
Rwyf hefyd yn astudio ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Abertawe drwy Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan. Mae’r PhD yn canolbwyntio ar arloesi mewn gofal cymdeithasol.
Ebost: enquiries@socialcare.wales
Dr Mark Briggs
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Mark yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r…
Dr Mark Briggs
Mark yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro lle mae’n gweithio gyda chydweithwyr a phartïon allanol i helpu i gyflwyno newid fesul cam yn y sefydliad a thu hwnt, ac ymgorffori hyn.
Cyn hyn, roedd yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Triniaeth Therapïau Uwch y Canoldir a Chymru, yn Arweinydd Rhaglen Therapïau Uwch Cymru, yn Llysgennad Meddygaeth Fanwl ar gyfer Hwb Gwyddor Bywyd Cymru, ac yn Bennaeth Therapi Celloedd a Genynnau Gwasanaeth Gwaed Cymru a Phennaeth Strategaeth ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Canolfan Ganser Felindre o fewn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Cyn symud i’r sector cyhoeddus, treuliodd Mark fwy nag 20 mlynedd ym maes ymchwil a datblygu yn y diwydiant Gwyddorau Bywyd masnachol, gan arwain y gwaith o ddatblygu a chymhwyso technolegau sy’n galluogi ac yn aflonyddu – yn bennaf ar gyfer darganfod cyffuriau, datblygu, profi diogelwch a diwydiannu therapïau uwch.
Ebost: Cav.Innovation@wales.nhs.uk
Amanda Edwards
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesedd a Gwella, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Amanda yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesedd a Gwella ym Mhowys. Fel…
Amanda Edwards
Amanda yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesedd a Gwella ym Mhowys.
Fel ardal wledig iawn â ffocws ar Ofal Sylfaenol a Chymunedol, mae potensial sylweddol i drawsnewid iechyd a gofal ar draws Powys trwy wneud defnydd gwell ac eang o dechnolegau digidol ac arloesedd. Mae ein lleoliad a’n tirwedd iechyd a gofal yn golygu ein bod yn gweithio ar y cyd ac mewn ffyrdd integredig ar draws y system gyfan.
Gall technoleg ddigidol ac arloesi ein helpu i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu iechyd a gofal a chynnig ffyrdd newydd o gefnogi pobl i aros yn iach. Mae’n hollbwysig ein bod yn achub ar y cyfleoedd digidol ar adeg pan fo’r system gofal iechyd yn gyffredinol dan bwysau, a lle mae datblygiadau cymdeithasol yn golygu bod angen cynyddol i arloesi a thrawsnewid y ffordd y caiff y system gofal iechyd ei rhedeg a’i datblygu. Mae hyn yn cynnwys rôl gynyddol i dechnoleg wrth gefnogi pobl i fonitro a rheoli eu hiechyd a’u lles eu hunain.
Dale Evans
Pennaeth Datblygu Busnes
Dale Evans yw Arweinydd Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan…
Dale Evans
Dale Evans yw Arweinydd Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPABM). Gyda ffocws ar fabwysiadu arloesiadau â nod CE, wedi’u cymeradwyo gan NICE, mae Dale yn cefnogi mentrau sy’n gwella gofal cleifion, effeithlonrwydd gweithredol, a darparu gofal iechyd cynaliadwy ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Gan fanteisio ar brofiad yn y GIG a phartneriaethau diwydiant, mae Dale yn gweithio ar y cyd â thimau clinigol, ymchwil a strategol i nodi a gweithredu datrysiadau gofal iechyd trawsnewidiol, gan alinio â Strategaeth a Fframwaith Arloesedd Cenedlaethol Cymru.
Ebost: ABB.Innovation@wales.nhs.uk
Dr Rachel Gemine
Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru
Mae Dr Rachel Gemine yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Tystiolaeth, Gwerthuso ac…
Dr Rachel Gemine
Mae Dr Rachel Gemine yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Tystiolaeth, Gwerthuso ac Effeithiolrwydd yng Nghyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru; Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe, Golygydd Cyswllt yn BMJLeader ac Ymddiriedolwr Fforwm Ymchwil a Datblygu y DU. Mae Rachel yn meddu ar dros 15 mlynedd o brofiad mewn Ymchwil ac Arloesi ac mae wedi cydweithio ar gynigion gwerth cyfanswm o dros £20 miliwn. Mae Rachel yn brofiadol mewn ymchwil ansoddol a meintiol, llwybrau arloesi a defnyddio data mewn ymchwil. Mae gan Rachel hefyd ddiddordeb mewn arwain a rheoli o fewn gofal iechyd ac mae’n rhedwr brwd.
Ebost: rachel.gemine@wales.nhs.uk
Lynda Jones
Pennaeth Arloesedd a Arweinir gan Her, Canolfan Ragoriaeth SBRI
Lynda sy’n arwain Canolfan SBRI, gan weithio mewn partneriaeth â…
Lynda Jones
Lynda sy’n arwain Canolfan SBRI, gan weithio mewn partneriaeth â GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu Arloesedd a Arweinir gan Her yng Nghymru.
Gyda dros 18 mlynedd o brofiad yn y GIG, bu Lynda yn allweddol wrth arwain y gwaith o weithredu SBRI fel mecanwaith i ysgogi arloesedd mewn iechyd ac mae’n uchel ei pharch am ei harbenigedd yn y maes hwn, ar ôl cynghori a chefnogi mentrau Arloesedd a Arweinir gan Her ledled y DU. Yn ystod y Pandemig COVID-19, arweiniodd yr her ‘gyflym’ gyntaf i fynd i’r afael â glanweithdra ambiwlansys a enillodd Wobr Dewi Sant am ‘Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg’ yn ddiweddarach. Yn ddiweddar, chwaraeodd Lynda rôl hollbwysig wrth gychwyn yr her gydweithredol gyntaf rhwng gwledydd datganoledig, gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael â chanser yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.
Mae Lynda yn frwd dros harneisio arloesedd i wneud newid cadarnhaol i’w chydweithwyr a phobl Cymru. Mae hi wedi ymrwymo’n fawr i greu atebion cynaliadwy, graddadwy sy’n gwella darpariaeth gofal iechyd a chanlyniadau cleifion. Trwy ei harweinyddiaeth, mae hi’n parhau i wthio ffiniau’r hyn y gellir ei gyflawni trwy arloesi.
Mark Griffiths
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Mark wedi gweithio yn y GIG ers 2008, a…
Mark Griffiths
Mae Mark wedi gweithio yn y GIG ers 2008, a chydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ers 2014. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi gweithio ar brosiectau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae wedi bod yn arweinydd arloesi yn ICC ers 2020.
Rhodri Griffiths
Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd
Ymunodd Rhodri â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel Cyfarwyddwr Mabwysiadu…
Rhodri Griffiths
Ymunodd Rhodri â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd ym mis Medi 2020, yn dilyn cyfnod tair blynedd yn gwasanaethu’r sefydliad fel aelod bwrdd. Cafodd amrywiaeth o uwch swyddi rheoli yn y sectorau masnachol, cyhoeddus a gwirfoddol gan weithio’n rhyngwladol â darparwyr gofal iechyd, fferyllol a thechnoleg feddygol ac ar eu cyfer , gan ddarparu partneriaethau cyhoeddus-preifat, rhaglenni trawsnewid mawr a thechnoleg newydd a rhaglenni mabwysiadu gwasanaethau.
Ymhlith ei rolau blaenorol mae Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Rheolwr Cyffredinol Current BioData, cyflenwr cronfa wybodaeth i fferyllfa fyd-eang. Bu Rhodri hefyd yn gyd-sefydlydd Societas Management a bu’n gynghorydd buddsoddi am dros ddegawd yn cefnogi datblygiad i ymadael, rheoli perthnasoedd gyda chyd-fuddsoddwyr a chynghori ar strategaeth ar gyfer portffolio gofal iechyd amrywiol gan gynnwys mentrau ar y cyd gyda’r GIG.
Ebost: hello@lshubwales.com
Lynne Grundy
Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Ymchwil a Datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Lynne yw Cyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol…
Lynne Grundy
Lynne yw Cyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae’n gyfrifol am reolaeth strategol a gweithredol gweithgaredd a datblygiad ymchwil ar gyfer BIPBC. Mae Lynne yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig ac yn Fydwraig Gofrestredig, ac mae ganddi Ddoethuriaeth mewn Gwyddor Nyrsio.
Mae gan Lynne gefndir clinigol cryf â diddordebau arbennig mewn cymhwyso ymchwil wrth ymarfer, arloesi a gwella gwasanaethau. Mae Lynne yn angerddol am gynnwys pob proffesiwn gofal iechyd mewn ymchwil, ac mae’n meddu ar flynyddoedd lawer o brofiad yn arwain addysg a datblygiad proffesiynol i nyrsys a bydwragedd.
Mae ganddi hefyd brofiad rheoli uwch mewn amrywiaeth eang o leoliadau gofal cymunedol ac eilaidd, o fewn adrannau clinigol a chorfforaethol mewn swyddi strategol a gweithredol/clinigol, yn ogystal â Darlithydd Nyrsio ym Mhrifysgol Bangor. Mae Lynne hefyd yn gweithio mewn swyddogaeth reoleiddiol i’r Comisiwn Ansawdd Gofal a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Zoe Hilton
Rheolwr Rhaglen Arloesedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Nyrs Gofrestredig sydd wedi gweithio ym maes Cardioleg Acíwt yn…
Zoe Hilton
Nyrs Gofrestredig sydd wedi gweithio ym maes Cardioleg Acíwt yn y DU ac UDA, cyn canolbwyntio ar Ddarparu Ymchwil Clinigol. I ddechrau gweithiodd Zoe ochr yn ochr â thîm y Colon a’r Rhefr a Banc Canser Cymru cyn mynd ymlaen i fod yn Nyrs Ymchwil Arweiniol ar gyfer Canser y Fron. Yn ystod y pandemig, sefydlodd ac arweiniodd dîm a ddarparodd dreialon ymchwil clinigol COVID-19 a achubodd fywydau.
Ebost: Cav.Innovation@wales.nhs.uk
Jennet Holmes
Pennaeth Arloesedd yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Gweledigaeth: Bod yn Sefydliad Disglair Rhyngwladol ar gyfer arloesi ym maes…
Jennet Holmes
Gweledigaeth: Bod yn Sefydliad Disglair Rhyngwladol ar gyfer arloesi ym maes Gwasanaethau Canser a Gwaed.
Cenhadaeth: Symbylu gwelliant parhaus a datblygiadau arloesol mewn gwasanaethau canser a gwaed trwy feithrin diwylliant o arloesi, creadigrwydd, cydweithio a rhagoriaeth.
Cylch gwaith Arloesedd Felindre yw gweithio ar draws yr Ymddiriedolaeth â’n gweithlu, ein cleifion, rhoddwyr a phartneriaid allweddol i gefnogi datblygiad a darpariaeth arloesedd. Mae ein gweledigaeth yn cynnwys adeiladu ecosystem arloesi gydweithredol lle mae staff, darparwyr gofal iechyd, ymchwilwyr, y byd academaidd, diwydiant, cleifion, rhoddwyr, a phartneriaid cymunedol yn gweithio â’i gilydd yn ddi-dor i symbylu arloesedd, mynd i’r afael â gwahaniaethau gofal iechyd, a chreu cymunedau iachach. Rydym yn adeiladu ecosystem arloesi sy’n cefnogi ac yn cryfhau gallu a chapasiti’r Ymddiriedolaeth i arloesi.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn eich cefnogi â syniad am brosiect, neu os ydych eisoes yn gyflenwr neu’n entrepreneur sy’n meddu ar ddatrysiad arloesol, cysylltwch â’r tîm Arloesi gan ddefnyddio’r ffurflen isod.
Yr Athro Chris Hopkins
Pennaeth TriTech ac Arloesi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Mae Chris yn Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol, yn Athro Anrhydeddus yn…
Yr Athro Chris Hopkins
Mae Chris yn Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol, yn Athro Anrhydeddus yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn Athro Anrhydeddus yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru. Ar hyn o bryd ef yw Pennaeth TriTech ac Arloesedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac mae’n Gyfarwyddwr Clinigol yn y ganolfan technolegau cynorthwyol ac arloesi, Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant.
Mae ganddo gymrodoriaethau AHCS ac IPEM, ac mae hefyd yn Wyddonydd Siartredig ac yn Beiriannydd Siartredig. Mae Chris yn aelod o’r pwyllgor ymgynghori arbenigol o fewn MHRA, yn aelod o banel arfarnu Technoleg Iechyd Cymru a dyfarnwyd Gwobr Rhagoriaeth mewn Ymchwil ac Arloesedd Gwyddor Gofal Iechyd iddo yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwyddor Gofal Iechyd 2022 Prif Swyddog Gwyddonol GIG Lloegr.
Gan gydweithio ag amrywiaeth o Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) a Diwydiant ledled Cymru a’r DU, mae’r tîm yn cynnal ymchwil a gwerthusiadau byd go iawn ar dechnolegau meddygol, gwasanaethau, prosesau, a modelau llwybr. Mae’r tîm yn cynnwys unigolion sydd â chontractau anrhydeddus GIG/SAU deuol ac mae’n cwmpasu amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys y GIG, SAU a diwydiant. Mae ymgysylltu â’r grŵp dawnus hwn o weithwyr proffesiynol wedi atgyfnerthu ei gred bod cyflawni mwy o gynhwysiant ac amrywiaeth o fewn y sector yn gyraeddadwy ac yn hanfodol ar gyfer ei ffyniant yn y dyfodol.
Ebost: tritech.hdd@wales.nhs.uk
Dr Tom Howson
Pennaeth Arloesedd a Thrawsnewid, Comisiwn Bevan
Sylfaen cefndir academaidd Dr Tom Howson yw astudio’r gwyddorau biofeddygol,…
Dr Tom Howson
Sylfaen cefndir academaidd Dr Tom Howson yw astudio’r gwyddorau biofeddygol, ar ôl graddio o Brifysgol Lerpwl yn 2013. Rhoddodd hyn ddealltwriaeth eang iddo o systemau ffisiolegol, ochr yn ochr â symbylwyr sylfaenol afiechyd mewn poblogaethau dynol. Yn dilyn hyn cwblhaodd Tom ei PhD yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a oedd yn canolbwyntio ar reoli arloesedd ar draws y sectorau iechyd a gwyddorau bywyd. Ar hyn o bryd mae Tom yn bennaeth arloesi a thrawsnewid ar gyfer Comisiwn Bevan, melin drafod annibynnol fwyaf blaenllaw Cymru ar gyfer materion sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol, gyda chyfrifoldebau’n cynnwys darparu rhaglen arloesi genedlaethol Bevan Exemplars. Ochr yn ochr â hyn, mae Tom yn Adolygydd Tystiolaeth ar gyfer y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn aelod o Gymuned Q y Sefydliad Iechyd ac yn gadeirydd elusen iechyd mamau a newyddenedigol.
Tom James
Pennaeth Strategaeth a Pholisi Arloesedd, Llywodraeth Cymru
Tom yw arweinydd Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi arloesi ym…
Tom James
Tom yw arweinydd Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi arloesi ym maes gofal iechyd ac arweiniodd y gwaith o ddatblygu cydran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru’n Arloesi : Strategaeth Arloesedd Cymru 2023 Llywodraeth Cymru.
Mae Tom hefyd yn gyd-arweinydd cynllunio ac ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer amrywiaeth o raglenni arloesi gwerth miliynau o bunnoedd fel Technoleg Iechyd Cymru, Comisiwn Bevan, Accelerate ac AgorIP.
Yn gyn-fyfyriwr Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil, mae Tom wedi gweithio ym maes polisi Arloesedd ers degawd, gan dreulio dwy flynedd ar secondiad yn ddiweddar â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesedd, lle datblygodd ddull newydd o arloesi ar gyfer y sefydliad yn ystod pandemig Covid-19. Roedd hyn yn cynnwys Astudiaeth Arloesedd a Thrawsnewid Covid-19 GIG Cymru 2021, ac enillodd wobrau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe 2022 am ymateb Rhagorol i bandemig Covid-19.
Mae Tom yn Gymrawd Arloesedd Anrhydeddus â Phrifysgol De Cymru ac ar hyn o bryd mae’n cwblhau ei PhD drwy Ymchwil mewn Arloesedd â Phrifysgol Abertawe.
Rachael Powell
Cyfarwyddwr Cyswllt Gwybodaeth, Cudd-wybodaeth ac Ymchwil
Mae Rachael yn arwain y timau Gwybodaeth, e-Lyfrgell ac Ymchwil…
Rachael Powell
Mae Rachael yn arwain y timau Gwybodaeth, e-Lyfrgell ac Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Corff cenedlaethol arbenigol Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac mae’n rhan o GIG Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn GIG Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddarparu gwasanaethau digidol a data cenedlaethol sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bu Rachael yn gweithio yn y GIG ers dros 20 mlynedd yn cwmpasu Cynllunio Strategol, Gwella Gwasanaethau, Gwybodaeth, Archwilio Clinigol ac Ymchwil ac Arloesi ar draws Gofal Sylfaenol ac Eilaidd a hefyd y Gwasanaeth Ambiwlans. Mae hi wedi arwain ar ddatblygu strategaeth a rhaglenni newid strategol mawr, gan gefnogi newidiadau i systemau ac ailddylunio gwasanaethau. Mae hi’n angerddol am arwain a chefnogi trawsnewid ac arloesi trwy fanteisio i’r eithaf ar ddata a chynnig digidol DHCW ar draws y system.
Ebost: DHCW_R&I@wales.nhs.uk
Dr Tom Powell
Pennaeth Arloesedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Dr Tom Powell yw Pennaeth Arloesedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm…
Dr Tom Powell
Dr Tom Powell yw Pennaeth Arloesedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Arweinydd Arloesi Rhanbarthol Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg. Mae bellach ar secondiad rhan amser â Phrifysgol De Cymru fel Cymrawd Gwadd a Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru.
Matthew Prettyjohns
Prif Ymchwilydd Economeg Iechyd, Technoleg Iechyd Cymru
Mae Matthew yn Brif Ymchwilydd mewn economeg iechyd â Thechnoleg…
Matthew Prettyjohns
Mae Matthew yn Brif Ymchwilydd mewn economeg iechyd â Thechnoleg Iechyd Cymru (HTW). Corff cenedlaethol yw HTW sy’n gweithio i wella ansawdd gofal yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy’n ein hariannu a GIG Cymru sy’n ein cynnal, ond rydym yn annibynnol ar y ddau sefydliad. Rydym yn adolygu tystiolaeth ar effeithiolrwydd a chost effeithiolrwydd technolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaeth, ac yn gwerthuso’r dystiolaeth hon yn feirniadol. Yna byddwn yn cyhoeddi canllawiau annibynnol, awdurdodol ar sail y dystiolaeth a’r arbenigedd gorau sydd ar gael i gefnogi’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau a chomisiynwyr yn GIG Cymru.
Nigel Rees
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil ac Arloesedd, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Yn rhyngwladol, mae gwasanaethau ambiwlans yn wynebu galwadau cynyddol a…
Nigel Rees
Yn rhyngwladol, mae gwasanaethau ambiwlans yn wynebu galwadau cynyddol a di-baid am eu gofal. Nid yw’r sefyllfa hon yn gynaliadwy ac mae ymdrechion wedi’u targedu tuag at ofalu am fwy o bobl o bell ac yn y gymuned. Mae gan WAST lawer o bartneriaethau ac mae’n ceisio cydweithio ymhellach ag unigolion a grwpiau ar ddatblygiadau arloesol sy’n ceisio mynd i’r afael â’r galw am wasanaethau a darparu gofal cynaliadwy o ansawdd uchel.
Saddaf Shaheen
Pennaeth Ymchwil ac Arloesi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Mae Saddaf yn meddu ar dros 12 mlynedd o brofiad…
Saddaf Shaheen
Mae Saddaf yn meddu ar dros 12 mlynedd o brofiad ymchwil ac arloesi yn y GIG ac mae ganddi brofiad o weithio â sefydliadau’r GIG, y byd academaidd a diwydiant i gefnogi â llwybrau arloesi a chanllawiau ar reoleiddio ymchwil. Mae gan Saddaf brofiad o gyflwyno’r strategaethau ymchwil ac arloesi ar gyfer ysbytai acíwt gan wneud ymchwil yn rhan annatod o ofal clinigol a chynyddu galluoedd a galluoedd ymchwil. Mae Saddaf yn arwain ar gyflawni strategaeth ymchwil ac arloesi DHCW, â ffocws ar ddatblygu’r seilwaith ar gyfer cefnogi ymchwil ac arloesi, partneriaethau a diwylliant.
Ebost: DHCW_R&I@wales.nhs.uk
Gwyn Tudor
Prif Swyddog Gweithredol MediWales
Mae Gwyn yn meddu ar dros ddeng mlynedd ar hugain…
Gwyn Tudor
Mae Gwyn yn meddu ar dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad o weithio ar brosiectau creadigol yn y sector gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae’n arbenigwr arloesi. Ef yw Prif Swyddog Gweithredol MediWales. Mae’n Aseswr i Innovate UK ac yn Olygydd cyfnodolyn gwyddoniaeth a thechnoleg Llywodraeth Cymru, Advances Wales.
Ebost: info@mediwales.com