Eich partneriaid ar y daith arloesi

Decorative graphic

Nod cyffredin

Credwn fod cydweithredu yn allweddol wrth oresgyn yr heriau sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy gydweithio â’n partneriaid, rydym yn mynd i’r afael â materion cymhleth ac yn creu datrysiadau arloesol sy’n symbylu newid parhaol.

Ein hamcan

Nod Amcan ein rhwydwaith yw cefnogi a chyfrannu at ecosystem lewyrchus sy'n cefnogi'r rhai rheiny sy’n dymuno gsydd am wella canlyniadau deilliannau iechyd a gofal, yn cyflymu'r broses o fabwysiadu technolegau newydd, ac sy'n grymuso timau i gwrdd wynebuâ'r heriau presennol a heriau'r dyfodol .a chyfrannu at yr ecosystem hon.

Tîm profiadol

Mae ein partneriaid yn ymroddedig i'ch cefnogi chi, yr arloeswyr â chyngor arbenigol, arweiniad, ac adnoddau i droi syniadau yn ddatrysiadau i’r byd go iawn.

Ein Fframwaith

Mae ein Fframwaith Arloesedd yn arwain sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru i feithrin, ehangu a rheoli arloesedd, gan ddarparu’r offer a’r prosesau sydd eu hangen i drawsnewid y ffordd y darperir iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cwrdd â'n Harweinwyr Arloesedd

Sut gallwn ni eich helpu chi

Decorative graphic

Rydym yn eich helpu i droi eich syniad ar gyfer y GIG neu ofal cymdeithasol yn realiti gan ddefnyddio ein Fframwaith Arloesedd.

Cyngor a
Cefnogaeth

Cyngor a Chymorth: Cyfeiriadur helaeth o sefydliadau sy'n ymwneud ag Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ledled Cymru. P'un a ydych yn chwilio am sefydliadau ymchwil, cyrff cyllido, darparwyr gofal iechyd, neu rwydweithiau cymorth, fe darganfyddwch nhw yma.

Cyllid a
Grantiau

Cyllid a Grantiau: Darganfyddwch amrywiaeth o opsiynau cymorth ariannol trwy Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i sbarduno eich prosiect neu ei ddatblygu. P'un a ydych ar y cam syniad neu'n barod i ehangu, mae cyfleoedd ariannu ar gael sy’n addas i'ch anghenion.

Offer, Canllawiau a Templedi

Offer, Canllawiau a Thempledi: Cyrchwch gyfoeth o adnoddau wedi’u dylunio o bob rhan o Ecosystem Arloesedd Cymru i symleiddio eich taith arloesi. O ganllawiau ymarferol i dempledi y gellir eu haddasu, mae yna offer i'ch helpu i gynllunio, datblygu a gweithredu'ch prosiectau.

Hyfforddiant a Datblygiad

Cyfleoedd Hyfforddi a Datblygu: Gwella'ch sgiliau a'ch gwybodaeth gyda rhaglenni hyfforddi wedi'u teilwra ledled Cymru. Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol, gan eich helpu i aros ar flaen y gad o ran arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mwy am yr hyn a wnawn

Arloesi ar gyfer Cymru Gryfach, Tecach, Wyrddach

Rydym ar flaen y gad mewn cyfnod cyffrous o ran arloesi yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu Strategaeth Arloesi uchelgeisiol i Gymru, sy’n nodi carreg filltir arwyddocaol yn ein taith gyfunol tuag at ddyfodol mwy llewyrchus, teg a chynaliadwy. Mae’r strategaeth hon yn lasbrint ar gyfer harneisio pŵer arloesi i drawsnewid ein cymdeithas a’n heconomi, gan wneud Cymru’n genedl flaenllaw o ran datblygu ar sail arloesedd. Wrth inni gychwyn ar y daith hon, bydd ein hymdrechion ar y cyd ym maes entrepreneuriaeth, arloesedd a thechnoleg yn hollbwysig i wireddu gweledigaeth o well iechyd, swyddi a ffyniant i bob sector o gymdeithas Cymru.

Newyddion a Digwyddiadau

Decorative Graphic
Matthew Davies, a Team Manager at Merthyr Tydfil Children’s Service Entrepreneur o Gymru yn lansio ap i gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol
Mae gweithiwr cymdeithasol o Flaenau Gwent wedi creu ap arobryn gyda’r potensial i chwyldroi gwasanaethau cymdeithasol sy’n gweithredu yng Nghymru…

10 Mawrth 2025

BioCymru Yn Llundain - 12fed Mawrth 2025
BioCymru yn Llundain yw arddangosfa gwyddor bywyd a gofal iechyd Cymru. Mae’n darparu llwyfan unigryw ar gyfer arloesiadau newydd cyffrous…

09 Mawrth 2025

Anadlu’n Haws: Ateb Arobryn Cymru i Leihau Allyriadau’r GIG
Mae cyllid gan Ganolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) ac Arloesedd Iechyd Llywodraeth Cymru, wedi galluogi timau clinigol ledled…

11 Mawrth 2025

Ewch â fi at y Fframwaith Arloesedd

Cliciwch yma

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth

Cliciwch yma