Mae MediWales yn cynnal eu cynhadledd Connects flynyddol ar 17 Mehefin yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd.

MediWales Connects yw cynhadledd cydweithio GIG Cymru gyfan ar gyfer y gymuned iechyd a gofal, sy’n eich cysylltu â chlinigwyr sy’n wynebu cleifion, arweinwyr arloesi, iechyd cymunedol, diwydiant, y llywodraeth a llunwyr polisi.

Gan adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd wedi’i wneud ynghylch mabwysiadu arloesedd, byddwn yn ystyried yr heriau sy’n gysylltiedig â chynyddu newid a mabwysiadu cynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau newydd sy’n sicrhau effaith i gleifion ar draws y GIG cyfan.

Nod y gynhadledd yw:

  • Amlygu ac arddangos y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan y cymunedau iechyd a gofal yng Nghymru.
  • Gwella cydweithio rhwng byrddau iechyd, diwydiant a chymunedau ymchwil.
  • Codi proffil GIG Cymru ac arloesi clinigol ledled y DU.
  • Cefnogi perthnasoedd gwaith agosach rhwng diwydiant, y GIG a grwpiau ymchwil a galluoedd treialon clinigol.

Mae’r digwyddiad hwn am ddim i bob cydweithiwr iechyd a gofal ei fynychu.

Dysgwch fwy am gynhadledd MediWales Connects yma .