Ein rhwydwaith

Decorative graphic

Rydym yn ymroddedig i feithrin cydweithrediad rhwng arloeswyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, ac arbenigwyr diwydiant ledled Cymru. Mae ein rhwydwaith yn gweithredu fel llwyfan ar gyfer dysgu a chefnogaeth ar y cyd, gan alluogi unigolion a thimau i ddatblygu a gweithredu datrysiadau trawsnewidiol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy gysylltu partneriaid o’r un anian, rydym yn helpu i gyflymu arloesedd a symbylu newid ystyrlon sy’n gwella deilliannau a phrofiadau i gymunedau ar draws Cymru.

Arweinwyr Arloesedd

Mae ein Harweinwyr Arloesedd yn hyrwyddo mabwysiadu syniadau a thechnolegau newydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Gan gydweithio â gweithrediaeth GIG Cymru, Awdurdodau Lleol, darparwyr gofal cymdeithasol, byrddau iechyd, diwydiant, a’r byd academaidd, maent yn arwain prosiectau arloesol, yn rhannu gwybodaeth, ac yn darparu datrysiadau effeithiol sy’n gwella mynediad at ofal a gwasanaethau.

GIG Cymru

Mae GIG Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau gan gynnwys gofal sylfaenol, gofal ysbyty, gwasanaethau iechyd meddwl, a gofal brys. Wedi’i sefydlu ym 1948, mae’n sicrhau gofal iechyd hygyrch o ansawdd uchel i bob preswylydd, waeth beth fo’u statws ariannol. Mae GIG Cymru hefyd yn ymroddedig i fentrau iechyd cyhoeddus, ymchwil feddygol, ac addysg i wella deilliannau iechyd cymunedol.

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arloesedd ym maes iechyd a gofal drwy ei Strategaeth Arloesi i Gymru 2023 a chyllid drwy’r rhaglen Partneriaethau a Thechnoleg Arloesedd. Strategaeth arloesi i Gymru | LLYW.CYMRU

Partneriaid

Mae ein partneriaid yn cwmpasu amrywiaeth eang o sefydliadau o fewn ecosystem arloesi Cymru, gan gynnwys diwydiant, y byd academaidd, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Gyda’i gilydd, maent yn cydweithio i symbylu arloesedd, rhannu arbenigedd, a darparu datrysiadau effeithiol sy’n gwella iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Cwrdd â'n Harweinwyr Arloesedd

Ewch â fi at y Fframwaith Arloesedd

Cliciwch yma

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth

Cliciwch yma