Mae’r Rhwydweithiau Clinigol Strategol Cenedlaethol wedi’u dylunio i symbylu newid, gwella canlyniadau, lleihau amrywiadau, a gwella iechyd a bywydau pobl Cymru.
Maent yn gyfrwng pwysig ar gyfer gwireddu’r uchelgais a nodir yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol ac yn disgrifio ‘sut olwg sydd ar dda’ ym mhob un o’u meysydd priodol, yn ogystal â disgwyliadau ar gyfer cyflawni ar draws iechyd ein poblogaeth.
Gan weithio rhwng cyflawniad gwasanaethau gweithredol mewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau a llunio polisi a strategaeth yn Llywodraeth Cymru, mae arweinyddiaeth glinigol yn greiddiol i bob rhwydwaith. Maent yn gwneud defnydd uniongyrchol o arbenigedd clinigwyr sy’n gweithio ym maes darparu gwasanaethau rheng flaen mewn gofal sylfaenol, cymunedol, eilaidd a thrydyddol.
Mae’r rhwydweithiau’n defnyddio data a thystiolaeth, ac yn eu cyfrannu, yn ogystal ag ymgysylltu’n eang â’r trydydd sector, cynrychiolwyr cleifion, a diwydiant.