Yn rhan o deulu GIG Cymru ac yn bartner dibynadwy, mae DHCW yn bwrw ymlaen â’r genhedlaeth nesaf o wasanaethau sydd eu hangen i drawsnewid y ffordd y darperir iechyd a gofal:
- Cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad diogel at wybodaeth am eu cleifion, sydd ar gael lle bynnag y dymunant weithio
- Darparu atebion digidol newydd i gefnogi gofal i gleifion canser, i helpu nyrsys, i foderneiddio unedau gofal critigol, i ddiweddaru fferylliaeth ysbytai, rhagnodi a gofal cymunedol
- Defnyddio data i roi mewnwelediad a gwella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu a’u cyrchu gan gleifion
- Helpu Cymry i reoli eu hiechyd eu hunain a gwella o salwch drwy roi gwasanaethau iechyd yn eu pocedi. Rhoi mynediad i bobl at eu cofnod iechyd digidol eu hunain ac apiau o unrhyw ddyfais gan ei gwneud yn haws cysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal
- Brwydro yn erbyn troseddau seiber trwy uned seiber-gydnerthedd bwrpasol
- Defnyddio safonau digidol i ganiatáu ar gyfer datblygu a darparu gwasanaethau digidol yn gyflymach
- Diogelu asedau data gwerthfawr trwy foderneiddio storio data a mabwysiadu polisi 'cwmwl yn gyntaf'