Pwy ydym ni

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cysylltu cwmnïau arloesol â darparwyr gofal iechyd a’r GIG i sicrhau effaith economaidd ac iechyd ystyrlon. Drwy gefnogi’r gwaith o fabwysiadu datrysiadau arloesol, rydym ni’n helpu i drawsnewid gofal iechyd yng Nghymru a’r tu hwnt.

Rydym ni’n gweithio’n agos gyda thimau iechyd a gofal cymdeithasol blaenllaw i nodi heriau critigol a’u cysylltu â datblygiadau arloesol sy’n cael effaith fawr. Mae ein dull gweithredu sydd wedi’i deilwra, ynghyd â’n harbenigedd dwys, yn sicrhau manteision yn y byd go iawn i gleifion a darparwyr gofal iechyd fel ei gilydd.

Beth rydym ni’n ei wneud

Rydym ni’n darparu cymorth arbenigol i gyflymu’r broses o fabwysiadu arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:

  • Datblygu Partneriaethau – Cysylltu sefydliadau ag arloeswyr, digwyddiadau yn y diwydiant, a chyfleoedd i gydweithio.
  • Rheoli Prosiectau – Cefnogi arloesedd o’r cam sefydlu i’r cam gweithredu ar raddfa fawr.
  • Datblygu Achosion Busnes – Helpu i greu achosion busnes cryf sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer dulliau mabwysiadu clinigol.
  • Cynigion sy’n barod i gael eu mabwysiadu – Cynlluniau gweithredu wedi’u teilwra yn seiliedig ar asesiadau strwythuredig.
  • Adroddiadau ar y farchnad a sganiau cyflym – Gwybodaeth am dirweddau arloesi, llwybrau rheoleiddio, ac economeg iechyd.
  • Asesiadau Arloesi – Gwerthuso parodrwydd y farchnad a chynnig adborth strategol.
  • Cyngor ar Gyllid – Canfod cyfleoedd buddsoddi a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cynigion.
  • Arddangos Arloesedd – Cyhoeddi astudiaethau achos, newyddion am y diwydiant, a blogiau gwadd i gynyddu effaith.

Sut rydym ni’n helpu

Datblygu Partneriaethau

Rydym ni’n cysylltu sefydliadau â’r arloeswyr cywir i gyflymu’r broses fabwysiadu. Drwy bartneriaethau strategol, rhwydweithio yn y diwydiant, a chyfarfodydd bwrdd crwn dan arweiniad arbenigwyr, rydym yn hwyluso cydweithio sy’n sbarduno newid go iawn.

 Datblygu Achosion Busnes

Rydym ni’n cefnogi prosiectau arloesi gydag achosion busnes sy’n cael eu gyrru gan ddata ac sy’n cyd-fynd â’r Model Pum Achos, gan sicrhau bod penderfyniadau cadarn yn cael eu gwneud yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer dulliau mabwysiadu clinigol.

Cynigion sy’n barod i’w mabwysiadu

Mae ein hasesiadau arloesedd strwythuredig yn sicrhau bod cynigion yn cael eu teilwra ar gyfer dulliau mabwysiadu llwyddiannus, gan gynnwys adolygiadau gwerthuso, cynlluniau gweithredu, a chymorth parhaus.

Adroddiadau ar y Farchnad a Sganiau Cyflym

Mae ein tîm gwybodaeth am y sector yn darparu gwybodaeth am y farchnad, canllawiau rheoleiddio, a dadansoddiad economaidd iechyd i helpu sefydliadau i lywio’r dirwedd arloesi.

Rheoli Prosiectau

Rydym ni’n cefnogi’r cylch bywyd arloesi yn llawn, gan gynnwys y profion peilot a’r broses o gyflwyno prosiectau ar raddfa fawr. Mae ein tîm yn sicrhau bod newid yn cael ei reoli’n effeithiol ac yn cysylltu sefydliadau â’r partneriaid arloesi mwyaf addas.

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau cymorth, ewch i: Cefnogi Arloesi | Gwyddorau Bywyd

Arddangos Arloesedd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Rydym ni’n darparu llwyfan i bartneriaid rannu’r arferion gorau ac ehangu eu gwaith.

Adnoddau a Gwybodaeth

Rydym ni’n darparu adnoddau allweddol i gefnogi arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan helpu sefydliadau i gael gafael ar gyllid, rhwydweithiau a gwybodaeth arbenigol.

Edrych ar AdnoddauEwch i’n gwefan