Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn sefydliad rhwydwaith, y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi, sy’n dod ag amrywiaeth eang o bartneriaid ynghyd ar draws y GIG yng Nghymru, awdurdodau lleol, prifysgolion, sefydliadau ymchwil, y trydydd sector ac eraill.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos ag asiantaethau eraill y llywodraeth a chyllidwyr ymchwil (yng Nghymru a ledled y DU); partneriaid diwydiant; cleifion; defnyddwyr gwasanaeth; y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill.

Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i hyrwyddo ymchwil i glefydau, triniaethau, gwasanaethau a chanlyniadau a all arwain at ddarganfyddiadau ac arloesiadau a all wella a hyd yn oed achub bywydau pobl.