Mae Canolfan PRIME Cymru yn ganolfan ymchwil sy’n canolbwyntio ar ofal sylfaenol a gofal brys, y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ei hariannu er mwyn datblygu a chydlynu cynigion ymchwil a chefnogi ymchwilwyr. Mae’n ganolfan Cymru gyfan dan arweiniad ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd , Prifysgol Bangor , Prifysgol De Cymru , a Phrifysgol Abertawe .
Mae PRIME yn gweithio ar draws y 6 cham, gyda ffocws arbennig ar gamau 2-4.
Mae Canolfan PRIME Cymru o fudd i’r GIG a phobl Cymru drwy ddarparu sylfaen academaidd a thystiolaeth gref i ategu gofal sylfaenol a gofal brys.
Mae ein gwaith cydweithredol rhwng academyddion blaenllaw, unigolion, cymunedau, a sefydliadau yn hanfodol i gyd-gynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel ar raddfa fawr sy’n cael effaith.
Mae hyn yn sail i welliannau i wasanaethau sylfaenol a gwasanaethau brys, gan ddod â gwasanaethau arloesol yn nes at gymunedau, grymuso cleifion a theuluoedd yn eu gofal, gwneud gwasanaethau’n fwy integredig a pherson-ganolog, a sicrhau bod poblogaeth Cymru yn cael y budd mwyaf o’r adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar gael drwy fabwysiadu dull gofal iechyd teg sy’n seiliedig ar werth.
Mae cydweithrediad amlddisgyblaethol unigryw PRIME yn gymuned ymchwil unigol ledled Cymru sy’n ymchwilio i ofal sylfaenol a gofal brys yng Nghymru i gyflawni buddion pwysig i’n grŵp, y GIG, Llywodraeth Cymru, a phobl Cymru, drwy:
Meithrin gallu ar gyfer ymchwil gofal sylfaenol a brys yng Nghymru, gan gynnwys datblygu dulliau ymchwil, sgiliau, cleifion, ac aelodau’r cyhoedd a’r gweithlu. Bydd hyn yn cynnwys datblygu prif ymchwilwyr newydd a chymorth i glinigwyr ddod yn arweinwyr ymchwil. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn barhau i gael sylfaen academaidd gref ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol a brys yng Nghymru yn y dyfodol.