Fel rhwydwaith gwyddorau bywyd annibynnol dros Gymru, mae MediWales yn dwyn diwydiant, y byd academaidd a’r gymuned glinigol ynghyd i gefnogi datblygiad gwyddorau bywyd dynol yng Nghymru a chreu cydweithrediadau a chyfleoedd busnes ar gyfer ei aelodau, wrth ddathlu eu llwyddiant a hyrwyddo cryfderau’r sector yng Nghymru hefyd. Gyda hynny, mae MediWales yn cefnogi datblygiad masnach fyd-eang, yn gwella mynediad at arbenigedd clinigol hanfodol ac yn ymgysylltu â’r llywodraeth i alinio cymorth ag anghenion y sector.

Mae MediWales yn creu cydweithrediad trwy gyhoeddiadau a rhaglen boblogaidd o ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar faterion strategol ar gyfer y diwydiant gwyddorau bywyd, gan gynnwys diweddariadau rheoleiddiol, mynediad i’r farchnad, cyllid, anghenion clinigol heb eu diwallu, masnach ryngwladol ac amrywiaeth o grwpiau diddordeb arbennig.

Sut Mae MediWales yn Cefnogi’r Fframwaith Arloesedd

Disgrifio, Deall a Diffinio - mae MediWales yn cynnal digwyddiadau ac yn cefnogi creu partneriaethau i adeiladu’r arbenigedd a’r timau cywir i ddeall cyfle yn llawn.

Archwilio a Nodi Datrysiadau - Mae tîm MediWales yn meddu ar wybodaeth ddofn ac amrywiaeth eang o gysylltiadau ym maes gofal iechyd, diwydiant ac ymchwil i gefnogi asesu’r farchnad a sganio’r gorwel ac i nodi datrysiadau.

Mabwysiadu, Addasu a Datblygu a Pharodrwydd i Gyflwyno - Mae MediWales yn gweithio’n agos ag arweinwyr arloesi iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi mabwysiadu datrysiadau arloesol i fynd i’r afael â blaenoriaethau iechyd a gofal.