Mae’r ffenestr i wneud cais am ysgoloriaethau ar gyfer y rownd nesaf o raglenni addysg sydd ar gael drwy’r Academïau Dysgu Dwys ym Mhrifysgol Abertawe bellach ar agor!
Mae nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau wedi’u hariannu’n llawn ar gael i’r rhai sy’n gweithio ym maes Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Trydydd Sector yng Nghymru a cheir trosolwg isod.
Rhaglenni MSc Rhan Amser
Mae nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau ffioedd llawn ar gyfer Rhaglenni MSc rhan-amser yr Academïau Dysgu Dwys ar gyfer y flwyddyn academaidd, 2025-2026 gan ddechrau ym mis Medi 2025.
Wedi’u cyflwyno dros 2 flynedd, mae’r rhaglenni’n defnyddio cymysgedd o ddarpariaeth ar-lein wythnosol (dydd Gwener pm), gweithdai wyneb yn wyneb ar y penwythnos (tua 5 y flwyddyn) a deunydd anghydamserol sydd ar gael trwy blatfform dysgu rhithwir Canvas y Brifysgol er mwyn gweithio o amgylch gofynion gweithio’n llawn amser ac ymrwymiadau teuluol.
Mae’r ysgoloriaethau hyn ar gael ar y rhaglenni MSc rhan-amser canlynol ar gyfer dysgwyr proffesiynol a gyflogir ar hyn o bryd yn y Sector Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Trydydd Sector yng Nghymru. Bydd angen datganiad ategol gan eich rheolwr llinell neu rywun tebyg ar gyfer pob cais am gyllid.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am ysgoloriaeth yw dydd Llun 2 Mehefin 2025 . Cofiwch wneud cais am y cwrs ar yr un pryd, gan na fydd ceisiadau am ysgoloriaeth yn cael eu hystyried heb i gais am y cwrs perthnasol ddod i law swyddfa dderbyn y Brifysgol.
Addysg Weithredol
Mae Egwyddorion Addysg Weithredol Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth yn gwrs deuddydd ar-lein a gynhelir ym mis Hydref 2025. Mae manylion y cwrs i’w gweld yma .
Wedi’i gyflwyno gan dîm o gyfadran ryngwladol o arweinwyr sydd â gwybodaeth arbenigol am systemau iechyd a gofal, bydd y cwrs yn sicrhau eich bod yn dychwelyd i’ch sefydliad gyda’r offer i ddilysu neu adeiladu strategaeth a ddiffinnir gan werth a chanlyniadau. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am ysgoloriaeth ar gyfer cwrs mis Hydref yw 15 Awst 2025 .
Gallwch wneud cais am ysgoloriaeth cwrs gweithredol Egwyddorion Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth yma .
Os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch neu os hoffech siarad â’r tîm academaidd am gyngor ar astudio ac ymchwil, cysylltwch â ni.
Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth: vbhcacademy@swansea.ac.uk
Academi Arloesi: ihscacademy@swansea.ac.uk