Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn gorff cenedlaethol sy’n gweithio i wella ansawdd gofal yng Nghymru. Maent yn cydweithio â phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thechnoleg i sicrhau dull gweithredu Cymru gyfan. Cânt eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a’u cynnal o fewn GIG Cymru, ond yn annibynnol ar y ddau. Mae eu cylch gwaith yn cwmpasu unrhyw dechnoleg iechyd nad yw’n feddyginiaeth, megis dyfeisiau meddygol, gweithdrefnau llawfeddygol, therapïau seicolegol, tele-fonitro neu adsefydlu. Mae HTW wedi ymrwymo i sicrhau bod technolegau newydd arloesol yn cael eu gweithredu ledled Cymru mewn ffordd ddiogel, effeithiol a chost-effeithiol. Eu nod yw meithrin y broses o greu a defnyddio technolegau iechyd ledled Cymru y maent yn eu hystyried yn fanteisiol i gleifion, ymarferwyr meddygol, a’r system gofal iechyd yn ei chyfanrwydd. Cyflawnir hyn yn bennaf drwy sganio’r gorwel, cyfosod tystiolaeth ac adolygu a gwerthuso technolegau iechyd yn drefnus o ran eu diogelwch, eu heffeithiolrwydd a’u cost-effeithiolrwydd, yn dilyn creu canllawiau i ddefnyddwyr ac addysg a hyfforddiant mewn cydweithrediad â phrifysgolion a chyfleusterau ymchwil.

 

Sut mae HTW yn mynd i’r afael â gwahanol feysydd o’r fframwaith:

  • Archwilio a nodi datrysiadau

Ein nod yw nodi technolegau a datrysiadau nad ydynt yn feddyginiaethol a allai wella deilliannau i bobl Cymru. Awn ati i chwilio am awgrymiadau pwnc gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol, neu ddarparwyr, ond gall unrhyw un awgrymu pwnc i ni ei ystyried drwy’r ffurflen ar ein gwefan. Os yw pwnc a awgrymir o fewn ein cylch gwaith, yna byddwn yn archwilio a oes digon o dystiolaeth ar gael i gynnal arfarniad ac a yw’r pwnc yn bodloni ein meini prawf dethol i arfarnu. Manylir ar yr ystyriaethau hyn mewn Adroddiad Archwilio Pwnc (TER), a gyhoeddwyd ar ein gwefan. Yna mae ein Grŵp Asesu yn defnyddio’r TER ochr yn ochr ag ystyriaethau eraill i benderfynu a ddylid symud y pwnc yn ei flaen i arfarniad llawn a chanllawiau.

  • Creu tystiolaeth a phrofi gwerth

Rydym yn asesu gwerth posibl technoleg drwy gynnal arfarniad tystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys adolygu’r dystiolaeth ar effeithiolrwydd a chost effeithiolrwydd technoleg iechyd, ei synthesu a’i harfarnu’n feirniadol, o’i gymharu â gofal safonol. Cofnodir pob asesiad mewn Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth (EAR). Caiff yr EAR drafft ei adolygu gan arbenigwyr pwnc (gan gynnwys gweithgynhyrchwyr technoleg) a Grŵp Asesu a Phanel Arfarnu Technoleg Iechyd Cymru cyn terfynu. Bydd ein Panel Arfarnu yn defnyddio’r EAR  i ddarparu gwybodaeth ar gyfer Canllawiau ar sail tystiolaeth ar y defnydd o’r dechnoleg yng Nghymru. Ar gyfer technolegau nad ydynt eto’n barod i’w harfarnu, mae HTW yn cynnig gwasanaeth cyngor gwyddonol. Nod y gwasanaeth hwn yw helpu cwmnïau a datblygwyr technoleg i fynegi cynnig gwerth eu technoleg yn glir ac adeiladu’r sylfaen dystiolaeth sy’n ofynnol i arddangos unrhyw honiadau o ran gwerth.

  • Mabwysiadu, addasu a pharodrwydd i gyflwyno

Nod Technoleg Iechyd Cymru yw cynyddu mabwysiadu technolegau iechyd y profwyd eu bod yn cynnig gwerth i bobl Cymru. Bydd ein Panel Arfarnu yn cynnig Canllawiau ar sail tystiolaeth ar y defnydd o dechnolegau iechyd yng Nghymru. Nid yw ein Canllawiau’n orfodol, ond disgwyliad Llywodraeth Cymru yw eu bod yn cael eu mabwysiadu gan sefydliadau iechyd a gofal perthnasol yng Nghymru. Rydym yn monitro mabwysiadu canllawiau yn rheolaidd drwy ein harchwiliadau mabwysiadu blynyddol. Mae disgwyl i bob bwrdd iechyd a chyrff perthnasol eraill adrodd ar sut maent wedi ystyried ein harfarniad a’n canllawiau. Mae gan ein canllawiau statws ‘mabwysiadu neu gyfiawnhau’ ac felly, os yw sefydliad wedi dewis peidio â mabwysiadu ein Canllawiau, yna gofynnir iddynt amlinellu eu rhesymeg a chyfiawnhau eu penderfyniad.