Sefydlwyd WHSSC (a gynhelir gan
Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ) yn 2010 gan y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru i sicrhau bod gan boblogaeth Cymru fynediad teg a chyfartal at yr ystod lawn o wasanaethau arbenigol.
Mae PGIAC yn gyfrifol am gyd-gynllunio Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol ar ran
Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru .
Wrth sefydlu WHSSC i weithio ar eu rhan, cydnabu'r saith Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) mai'r ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol o gynllunio'r gwasanaethau hyn oedd cydweithio i leihau dyblygu a sicrhau cysondeb.