Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
Yr wythnos hon, rydym wedi cynyddu swm y cyllid i gefnogi byrddau iechyd i leihau'r amseroedd aros hiraf i £50m.
Mae hwn yn £22m ychwanegol, ar ben y £28m a gyhoeddais fis diwethaf. Bydd yn galluogi byrddau iechyd i gynyddu capasiti yn y GIG yng Nghymru a defnyddio’r sector preifat, pan fydd ar gael.
Fel rhan o'r pecyn buddsoddiad hwn o £50m, bydd £3m yn mynd tuag at dorri'r amseroedd aros hiraf ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol i blant fel rhan o waith ehangach i drawsnewid gwasanaethau.
Rwy'n falch o weld nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd am driniaeth wedi gostwng yn ystod y mis diwethaf.
Mae hyn yn dangos bod cynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud ledled Cymru i leihau'r amseroedd aros hiraf. Gobeithiaf weld hyn yn parhau.
Er y bu cynnydd bach yn nifer cyffredinol y llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth, mae mwy na hanner yn aros llai na 26 wythnos a bu gostyngiad yn y nifer a fu'n aros am fwy na 36 wythnos ym mis Medi.
Rydym yn cydnabod yr effaith y gall arosiadau hir am driniaeth ei chael ar fywyd rhywun, yn feddyliol ac yn gorfforol, felly mae gennym ffocws tebyg i laser ar leihau’r amseroedd aros hiraf a gwella mynediad at ofal cleifion.
Dechreuodd mwy na 1,800 o bobl driniaeth canser ym mis Medi a derbyniodd bron i 14,000 o bobl y newyddion da nad oedd ganddyn nhw ganser.
Bu gostyngiadau hefyd yn yr amseroedd aros hir ar gyfer gwasanaethau diagnosteg a therapïau a rhai gostyngiadau yn nifer yr oedi yn y llwybr gofal.
Mae gwasanaethau brys a gofal brys yn parhau i fod o dan bwysau mawr – ym mis Hydref, derbyniodd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru’r ail nifer a’r gyfran uchaf o alwadau lle bu bywyd yn y fantol bob dydd ar gofnod, ond cafodd mwy na hanner y galwadau hyn ymateb o fewn wyth munud.
Bydd y £50m ychwanegol i leihau amseroedd aros hir yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael eu gweld a’u trin gan y GIG rhwng nawr a diwedd mis Mawrth ac rwyf am ddiolch i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol am groesawu’r her 50 diwrnod i gyflymu rhyddhau o’r ysbyty a sicrhau bod pobl yn gallu gwella o’u salwch neu anaf yng nghysur eu cartrefi eu hunain.