Mae’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA), mewn cydweithrediad â NHS Research Scotland, Health and Social Care (HSC) Gogledd Iwerddon ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi lansio pecyn cymorth newydd i’w gwneud yn haws sefydlu ymchwil ar draws y DU. Mae'r pecyn cymorth 'cynnal ymchwil ar draws ffiniau' wedi'i gynllunio i gefnogi ymchwilwyr sy'n cynllunio, sefydlu a chynnal ymchwil mewn mwy nag un wlad yn y DU. Er bod llawer o debygrwydd rhwng y prosesau cymeradwyo a sefydlu ymchwil ar draws gwledydd y DU, mae’r pecyn cymorth yn darparu gwybodaeth am y prif wahaniaethau fel bod ymchwilwyr a noddwyr yn glir ynghylch yr hyn y mae angen iddynt ei wneud. Nod y pecyn cymorth yw helpu i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i sefydlu ymchwil yn y DU. Dylai ymchwilwyr a noddwyr ddefnyddio'r pecyn cymorth fel rhan o'u cynllunio. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys gwybodaeth am:
  • prosesau cymeradwyo yn y GIG a HSC
  • ymchwil ymwthiol yn ymwneud ag oedolion heb allu
  • dyfeisiau meddygol cyffredinol a dyfeisiau meddygol in-vitro
  • cyrchu data adnabyddadwy heb ganiatâd
  • darparu pecyn gwybodaeth lleol i sefydliadau cyfranogol posibl
  • trefniadau contractio
Dywedodd Matthew Sanderson, Arbenigwr Rheoleiddio Ymchwil yn HRA: “Mae yna rai tebygrwydd o ran sut mae’r pedair gwlad yn cymeradwyo ymchwil, ond mae’n bwysig iawn i noddwyr ac ymchwilwyr fod yn ymwybodol o’r gwahaniaethau allweddol yn y broses gymeradwyo a sefydlu yng ngwledydd y DU. Mae'r pecyn cymorth yn helpu i wneud hyn yn gliriach a bydd yn helpu ymchwilwyr i lywio'r gwahaniaethau. “Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r pecyn cymorth hwn yn ystod y camau cynllunio a gwneud cais ond cofiwch ailedrych arno os ydych yn ystyried gwneud newidiadau i’ch astudiaeth neu dim ond i gadw’ch gwybodaeth yn gyfredol tra’n cynnal eich ymchwil ar draws mwy nag un o wledydd y DU. Wrth i'r canllawiau newid, caiff y pecyn cymorth ei ddiweddaru i adlewyrchu gofynion ym mhob un o'r pedair gwlad. Mae'r pecyn cymorth ar gael ar wefan NHS Research Scotland .