Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cefnogi arloeswyr ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, y byd academaidd a diwydiant i sicrhau cyfleoedd cyllid grant cydweithredol. Mae ei dîm arbenigol yn darparu gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion penodol sefydliadau. Mae cymorth yn cynnwys cysylltu sefydliadau â phartneriaid addas ar gyfer cynigion cydweithredol, nodi cyfleoedd buddsoddi perthnasol, a chynorthwyo gyda cheisiadau datblygu cynigion. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru hefyd yn cyfeirio at gynlluniau ariannu perthnasol, yn hwyluso cysylltiadau â rhanddeiliaid yn y gymuned cyfalaf menter ac asiantaethau ariannu ac yn darparu adnoddau a gwybodaeth am ddim am gyllid. Archwiliwch y cyfleoedd ariannu sydd ar gael yma Neu cysylltwch â ni yma