Yng Nghymru, mae gofal sy’n seiliedig ar werth yn cael ei ategu gan Ofal Iechyd Darbodus, a lansiwyd gyntaf fel athroniaeth a pholisi ym mis Ionawr 2014. Mae ei egwyddorion allweddol o gydgynhyrchu, tegwch, ymyrryd yn ysgafn yn effeithiol (a dim ond cymaint ag sydd ei angen arnom) a lleihau amrywiadau diangen (gan gynnwys tan-driniaeth a gor-driniaeth) i gyd yn allweddol i sicrhau gwerth i’n cleifion a’n dinasyddion ar draws system gyfan o iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Gofal Iechyd Darbodus wedi darparu sylfaen gref ar gyfer gwella gofal iechyd yng Nghymru a bydd dull gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth yn helpu i wireddu nodau Gofal Iechyd Darbodus.
Darganfod mwy: