Creu'r Diwylliant ar gyfer Arloesedd
Mae'r Canllaw hwn yn rhan o gyfres o adnoddau ar gyfer arloesi gan Sefydliad Arloesedd a Gwella'r GIG (gweler y blwch). Mae’n adnodd ar gyfer arweinwyr clinigol, rheolwyr, comisiynwyr, swyddogion gweithredol, ac arweinwyr arloesi a gwella gwasanaethau, mewn sefydliadau darparu, comisiynu a rheoleiddio’r GIG (e.e. SHA), sydd, naill ai ar eu pen eu hunain neu drwy hyfforddi eraill, yn dymuno asesu a gwella diwylliannau eu timau, adrannau, sefydliadau a systemau ar hyd dimensiynau diwylliant ar gyfer arloesi.