Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol drwy atebion arloesol sy’n mynd i’r afael â heriau digynsail. Mae
Adroddiad Blynyddol 2023-24 yn amlygu sut mae cydweithredu strategol a chymorth wedi’i deilwra yn cyflymu arloesiadau sy’n achub bywydau, yn gwella ansawdd gofal, ac yn sbarduno twf economaidd ledled Cymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu prosiectau arloesol sy’n ail-lunio gofal iechyd. Mae ystadegau newydd yn pwysleisio enw da cynyddol Cymru fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddenu buddsoddiad sylweddol a chynhyrchu gwelliannau diriaethol yn y modd y darperir gofal.
Uchafbwyntiau Effaith 2023-24:
- Cafodd 51,566 o gleifion fynediad at ofal iechyd arloesol
- £25.4 miliwn mewn cynigion ariannu a gyflwynwyd
- Lleihawyd 2,290 o ymweliadau clinigol
- Cynhaliwyd 147 o asesiadau arloesi
- 58 o swyddi wedi eu creu
- £5.5 miliwn o fuddsoddiad wedi'i sicrhau
- £1.7 miliwn o gyllid wedi'i sicrhau
- £3.1 miliwn o Werth Ychwanegol Crynswth (GYC) wedi'i ddarparu i'r economi
- Cynhyrchwyd £1.5 miliwn o werth ar gyfer y system iechyd a gofal
Mae’r Adroddiad Blynyddol yn tanlinellu sut mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gwasanaethu fel cysylltydd hanfodol ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, a diwydiant, gan ysgogi newid ystyrlon trwy nifer o fentrau cyffrous sydd i’w gweld yn yr
adroddiad .
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, “Mae Adroddiad Blynyddol 2023-24 yn amlygu’r cynnydd anhygoel a wnaed gan bartneriaid iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant. Gyda dros 50,000 o bobl yn elwa ar ddatblygiadau iechyd arloesol, mae cryfder y pwrpas yn fwy arwyddocaol nag erioed, ac mae balchder yn y partneriaethau a adeiladwyd i wneud Cymru yn arweinydd ym maes arloesi iechyd a gofal.”
Mae Adroddiad Blynyddol
llawn 2023-24 ar gael i'w lawrlwytho .