Cynhaliodd MediWales ei bedwaredd Gwobrau Arloesedd blynyddol ar bymtheg ddydd Iau 5 Rhagfyr 2024, yng Nghaerdydd.
Croesawyd ein haelodau diwydiant, y byd academaidd a staff iechyd a gofal cymdeithasol i Westy Mercure Holland House, Caerdydd, am noson wych yn dathlu llwyddiannau anhygoel y sector Gwyddor Bywyd yng Nghymru.
Mae Gwobrau Arloesedd MediWales yn wobrau rhanbarthol, fel rhan o rwydwaith ehangach Medilink UK. Bydd pob un o enillwyr Gwobrau'r Diwydiant yn cael eu cynnwys yn awtomatig yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Medilink UK.
Rhennir Gwobrau Arloesedd MediWales yn ddau gategori: Gwobrau Diwydiant a Gwobrau Iechyd.
Dim ond cwmnïau o Gymru, neu gwmnïau ag ôl troed yng Nghymru sy'n gymwys i wneud cais am Wobrau'r Diwydiant.
Dim ond byrddau iechyd Cymreig neu gwmnïau sy'n gweithio ar y cyd â bwrdd iechyd Cymreig sy'n gymwys i wneud cais am y Gwobrau Iechyd. Rhaid i bob cais ar gyfer y Gwobrau Iechyd ddod oddi wrth y gweithwyr iechyd proffesiynol/clinigwyr/bwrdd iechyd y mae’r cwmni wedi gweithio ar y cyd â nhw.
Ein categorïau gwobrau 2024:
Gwobrau Diwydiant
- Arloesedd
- Cychwyn Busnes
- Partneriaeth gyda'r GIG
- Allforio
- Cyflawniad rhagorol
Gwobrau Iechyd
- GIG Cymru yn gweithio gyda Diwydiant
- Technoleg ac Effaith Ddigidol
- Cynyddu Arloesi a Thrawsnewid
- Arloesedd Gofal Cymdeithasol trwy Gydweithio
- Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Diwydiant
Cliciwch yma i weld ein tudalen enillwyr Gwobrau Arloesedd MediWales 2024, sy'n cynnwys gwybodaeth am ein categorïau gwobrau 2023, enillwyr a lluniau o'r noson.
Anfonwch e-bost atom yn
info@mediwales.com i holi am gyflwyno cais am Wobr.