Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

 

Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cymru’n Arloesi: Creu Cymru Gryfach, Tecach, Werddach , strategaeth arloesi trawslywodraethol sy’n seiliedig ar genhadaeth. Roedd yn gosod ein nodau wedi’u grwpio’n bedair cenhadaeth – Addysg, yr Economi, Iechyd a Lles, a Hinsawdd a Natur.

Cyhoeddwyd cynllun cyflawni dilynol ym mis Hydref 2023 a oedd yn addo darparu diweddariad cynnydd ar ôl y flwyddyn gyntaf. Mae’r Datganiad hwn yn nodi’r cynnydd sylweddol gan Lywodraeth Cymru o ran rhoi nifer o gamau ar waith ar draws y pedair cenhadaeth sydd o fudd i bob rhanbarth o Gymru.

Addysg

Ers mis Mehefin 2024, mae Gyrfa Cymru wedi bod yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu ymwybyddiaeth entrepreneuraidd drwy Syniadau Mawr Cymru a ariennir gan Busnes Cymru , ac mae wedi cefnogi’r cwricwlwm newydd drwy ddatblygu adnoddau addysgu entrepreneuriaeth newydd ar Hwb a hyfforddiant.

Prosiect Robert Owen: canllaw i gwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol , a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024, yn cynyddu profiadau arloesi mewn lleoliadau ysgol. Ar gael ar Hwb ei nod yw helpu pobl ifanc i ddod yn gyfranwyr mentrus, creadigol trwy eu dysgu.

Rydym yn parhau i weithio gyda Chyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a sefydliadau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) i gyflwyno Gwobrau Arloesedd Cymru Gyfan. Denodd y digwyddiad 975 o fyfyrwyr o 67 o ysgolion yn 2023, a 1,015 o fyfyrwyr o 70 o ysgolion yn 2024.

Yn ystod blwyddyn academaidd 2023-24, derbyniodd 4,438 o fyfyrwyr mewn Addysg Bellach (AB) ac Addysg Uwch (AU) gefnogaeth gan Hyrwyddwyr Menter, gyda 702 o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ddechrau busnes.

Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) newydd ar gyfer parhad Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth o 2024-2027 ym mis Ebrill 2024 gyda chyllideb flynyddol o £1.4m sy’n cael arian cyfatebol gan Innovate UK. Arweiniodd cyfraniad Llywodraeth Cymru o £1.8m a drosolodd £1.5m gan gyrff cyllid cyhoeddus eraill a £5m gan fusnesau a gymerodd ran at greu 83 o swyddi newydd yn ystod y cyfnod Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwethaf a oedd yn rhedeg o 2021-2024.

Yn gyfrifol am ariannu a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, cafodd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ei ailfrandio fel Medr ym mis Mehefin 2024 a daeth yn weithredol ar 1 Awst 2024. Mae hyn yn cynnwys addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau, chweched dosbarth ysgolion, dysgu oedolion yn y gymuned, ac ymchwil ac arloesi a ariennir gan y llywodraeth.

Mae Medr yn cefnogi galluoedd arloesol ac entrepreneuraidd prifysgolion Cymru drwy ei Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF) sydd wedi dosbarthu dros £28.3m ers mis Chwefror 2023. Mae hefyd yn annog prifysgolion i helpu myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd fel rhan o gyllid Cymorth Cyflogadwyedd i Fyfyrwyr.

Mae Medr wedi cael y dasg o ddatblygu diwylliant o arloesi ac ymgysylltu â chydweithio ar sail cenhadaeth gyda busnesau, buddsoddwyr diwydiant a llywodraeth sy’n cyfrannu at yr economi a chymdeithas. Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Medr wrth ddatblygu ei chynllun strategol, a gyflwynwyd i’w gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2024.

Economi

Mae cenhadaeth yr Economi wedi gweld datblygiadau yng Nghymru, gyda llywodraeth y DU, ac yn rhyngwladol.

Lansiwyd ein Cymorth Arloesedd Hyblyg SMART (SFIS) ym mis Mehefin 2023 gan gefnogi sefydliadau, busnesau, colegau, prifysgolion, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau ymchwil a thechnoleg waeth beth fo’u maint o fewn ein themâu blaenoriaeth a’n meysydd cryfder . Mae SFIS wedi cefnogi 148 o brosiectau, gan ddarparu £11.8 miliwn mewn grantiau tuag at gyfanswm gwariant rhagamcanol o £24.9 miliwn hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2024, gan feithrin arloesedd, gwella cystadleurwydd, a sbarduno buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol.

Dechreuodd iteriad newydd o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ym mis Mehefin 2024, gan ategu darpariaeth cymorth busnes presennol Busnes Cymru. Mae’n darparu cymorth arbenigol trwy becyn o gyngor wedi’i deilwra ar gyfer busnesau sy’n cael eu harwain gan arloesi.

Lansiwyd cyllid ar gyfer archwiliadau Eiddo Deallusol (IP) sefydliadol i ddatblygu strategaeth eiddo deallusol ym mis Gorffennaf 2024 gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi datblygu ein perthynas â Chynghorau Ymchwil y DU ymhellach a chodi ymwybyddiaeth o’r cystadlaethau arloesi Cyflymydd Amddiffyn a Diogelwch (DASA) yn ogystal â gweithio ar y cyd i ddatblygu’r Porthladdoedd Rhydd, Parthau Buddsoddi a chynigion y Fargen Ddinesig a Thwf.

Mae Adroddiad Astudiaeth Dichonoldeb y DU ac Achos Busnes Amlinellol wedi’u datblygu ar gyfer Rhaglen Technoleg Radioisotop Uwch ar gyfer Adweithydd Cyfleustodau Iechyd (ARTHUR), i’w lleoli yng ngogledd-orllewin Cymru. Os caiff ei adeiladu, bydd ARTHUR yn cynhyrchu llawer o’r cydrannau allweddol mewn meddygaeth niwclear a ddefnyddir i fynd i’r afael â chlefydau fel canser a Chlefyd Alzheimer.

Nod prosiect Airbus Endeavr Cymru (Endeavr), a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac Airbus Defense and Space, yw darganfod a deall, trwy raglen o ymchwil o safon fyd-eang, dechnolegau sy’n cefnogi datblygiad cynaliadwy busnes Airbus a thyfu a chryfhau galluoedd diwydiannol ac academaidd Cymru. Mae’r prosiect wedi trosoli £1.3m rhwng blynyddoedd calendr 2023 a 2024 ac wedi cefnogi 5 prosiect allan o gyfanswm o 38 o brosiectau a gyflwynwyd.

Rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024 buddsoddodd Banc Datblygu Cymru dros £8.8m, gan gefnogi 31 o gwmnïau arloesi a thechnoleg, gan drosoli £9.7m o gyd-fuddsoddiad sector preifat ychwanegol. Mae Cronfa Sbarduno Technoleg bwrpasol y Banc yn cefnogi busnesau technoleg Cymreig, a’r rhai sy’n barod i adleoli yma, ar gam profi cysyniad, gan annog arloesedd a thwf ar gyfer effaith hirdymor.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio’r mecanwaith Contractau ar gyfer Arloesi i hyrwyddo gweithgarwch ymchwil ac arloesi cydweithredol a hwyluso caffael yn y sector cyhoeddus ar gyfer atebion arloesol. Mae chwe her wedi’u cefnogi ers mis Chwefror 2023, gan gynnwys yr Economi Gylchol; Gofal Cartref; Ansawdd Aer; Gofal yn y Cartref a Fonitrir gan Glinigwr; a Nwyon Meddygol. Ym mis Rhagfyr 2024, mae dros £2.3m yn cefnogi 16 o brosiectau cydweithredol sy’n cynnwys 17 o fusnesau, 6 awdurdod lleol, 7 bwrdd iechyd a 2 sefydliad trydydd sector o Gymru.

Mewn perthynas â Llywodraeth y DU, rydym wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag Innovate UK yn nodi cytundeb ar y cyd i rannu data, cynyddu gwaith partneriaeth a datblygu cynigion arloesi o ansawdd uchel ar draws ystod o randdeiliaid, sectorau a rhanbarthau Cymru. O ganlyniad i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, mae Cynllun Arloesi Cydweithredol wedi’i gyhoeddi. Cafodd cynnydd ei arddangos mewn digwyddiad “Arloesi Lleol” a gynhaliwyd yn Wrecsam ym mis Tachwedd 2024.

Rydym yn parhau i gefnogi ceisiadau o Gymru am gyllid Innovate UK – ym mis Rhagfyr 2024, dyfarnwyd dros £66.7m i fusnesau ym mlwyddyn ariannol 2023-24, sef cynnydd o dros £5m ers y flwyddyn ariannol flaenorol, gan gefnogi 167 o brosiectau.

Mae rhaglen Launchpad Innovate UK yn cefnogi clystyrau BBaCh rhanbarthol sy’n dod i’r amlwg. Gan weithio gyda rhanddeiliaid o Gymru, mae wedi ymrwymo i fuddsoddi £7.5m i Lansio Technolegau Sero Net yn Ne Orllewin Cymru, lle mae’r chwe dyfarniad cyllid cyntaf wedi’u gwneud. Mae hefyd wedi cytuno ar £5m ar gyfer Lansio Amaeth-dechnoleg a Bwyd ar gyfer Canolbarth a Gogledd Cymru, lle mae naw prosiect wedi sicrhau cyfran o £400,000.

Daeth Llywodraeth Cymru yn bartner cyflawni ar gyfer Rhaglen Twf Busnes Innovate UK ym mis Ionawr 2024, gan gynnig cyfleoedd cydweithredu rhyngwladol i sefydliadau Cymreig ledled yr UE a thu hwnt. Rhwng Ionawr a Rhagfyr 2024, rydym wedi ymgysylltu â 98 o sefydliadau i archwilio cyfleoedd.

Mae Cymru yn un o un ar ddeg o ranbarthau arloesol yr UE sy’n rhan o Fenter Vanguard sydd wedi datblygu a chymryd rhan yn y peilot Vinnovate; mecanwaith cydweithio rhyng-ranbarthol. Derbyniwyd ceisiadau yng Nghymru, yn gweld cydweithio posib gyda’r rhanbarthau canlynol - Galacia (Sbaen), Norte (Portiwgal); Dwyrain yr Iseldiroedd a Gogledd Orllewin Rwmania. Mae pum prosiect sy’n cynnwys naw sefydliad Cymreig yn cael eu cefnogi gwerth cyfanswm o tua £950,000 ar gyfer y cyfranogwyr Cymreig.

Iechyd a Lles

Mae’r rhaglen Arloesedd, Technoleg a Phartneriaethau gwerth £11.5m yn cefnogi amrywiaeth o lwyfannau arloesi, sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau Gweinidogol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys Hwb Gwyddor Bywyd Cymru , Technoleg Iechyd Cymru , Comisiwn Bevan a 10 hyb cydgysylltu arloesi rhanbarthol ledled Cymru.

Lansiwyd y Comisiwn AI yn 2024 ac mae’n arwain y defnydd priodol o AI mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae wedi cymeradwyo’r defnydd o’r Safonau Cofnodi Tryloywder Algorithmig (ATRS), gan sicrhau ymddiriedaeth a didwylledd wrth ddefnyddio AI mewn gofal iechyd.

Mae Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi negodi mynediad i gyfres ehangach o raglenni’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) i gynyddu cyllid ymchwil. Mae pob £1 a werir yn y rhaglenni hyn yn dychwelyd £10 o fudd economaidd ac arbediad cost i’r GIG. Bydd lefelau uwch o weithgarwch ymchwil hefyd yn cynnig mwy o gyfleoedd i gleifion. Yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24, cafodd 19,627 o gyfranogwyr yng Nghymru eu recriwtio i astudiaethau ymchwil o ansawdd uchel, gan sicrhau bod pobl yn cael mynediad cynnar at driniaethau blaengar a gwasanaethau arloesol.

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau i gefnogi ein menter Trechu Canser rhwng Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Mae wedi sefydlu cyfeiriadur o gyllid arloesi a phartneriaid arloesi allweddol, gan hwyluso mynediad at ffynonellau cyllid i gefnogi cydweithredu rhwng iechyd, diwydiant a’r byd academaidd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adroddiad blynyddol Arloesi ar gyfer Cymru Iachach 2023-2024 yr Hyb.

Mae ystod o bartneriaethau iechyd a diwydiant strategol ar waith gydag Amgen, Medtronic, Novartis, Pfizer, Eli Lilly a lllumina yng Nghymru. Mae partneriaethau’n canolbwyntio ar feysydd sy’n cynnwys gallu diagnostig, patholeg ddigidol, llwybrau gofal arloesol, AI a llwyfannau data aml-omig, gan feithrin mwy o fuddsoddiad yn sector gwyddorau bywyd Cymru.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi llwyddo i negodi cytundebau partneriaeth gyda BioNTech a Moderna i gefnogi treialon clinigol ymchwil masnachol yng Nghymru. Mae cytundeb Moderna yn sicrhau cyfranogiad Cymru yn Rhaglen Arloesedd Brechlyn y DU. Mae cytundeb BioNTech yn cefnogi treialon brechlyn mNRA y cwmni yng Nghymru.

Mae £22m o gyllid ychwanegol wedi’i sicrhau gan Lywodraeth y DU, fel rhan o’r cynllun gwirfoddol ar gyfer prisio meddyginiaethau brand a rhaglen buddsoddi mynediad a thwf, i hybu gallu’r GIG i gyflawni ymchwil glinigol fasnachol. Dechreuwyd gweithredu yn 2024, a bydd yn parhau hyd at 2028.

Mae prosiect QuicDNA, a ddarperir gan Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan a Phrifysgol Caerdydd, wedi dod â sefydliadau’r GIG ledled Cymru, y Ganolfan Ymchwil Treialon, Llywodraeth Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, partneriaid amrywiol yn y diwydiant gan gynnwys Illumina, Amgen a Medtronic, y trydydd sector a Menter Canser Moondance ynghyd mewn partneriaeth i gefnogi’r gwaith o ganfod canser yr ysgyfaint yn gynt drwy fiopsi hylif.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi arwain y ffordd gyda strategaeth ymchwil, arloesi a gwella gofal cymdeithasol newydd, sef y gyntaf o’i bath yng Nghymru ac a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024. Bydd yn creu’r amodau i wneud newidiadau cadarnhaol a pharhaol mewn gofal cymdeithasol ac yn ysbrydoli ffyrdd newydd o weithio.

Mae grŵp rhyng-weinidogol, gydag aelodaeth o bob un o’r llywodraethau datganoledig a’r DU wedi’i greu i ddatblygu dull cyffredin o gyflymu’r broses o fabwysiadu arloesedd ar draws systemau’r GIG ym mhob rhan o’r DU.

Hinsawdd a Natur

Buddsoddodd y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd £3.3m mewn 16 o brosiectau yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24, gyda £4.2m pellach o brosiectau newydd yn cael eu hystyried. Cyfanswm CO2e yn rhagweld arbedion o 20,266 tunnell ac arbediad cost blynyddol amcangyfrifedig i fusnesau o £1m.

Lansiwyd Cronfa’r Economi Gylchol ym mis Mehefin 2023 i gefnogi 19 o brosiectau gan sefydliadau Cymreig hyd at fis Rhagfyr 2024. Dyfarnwyd dros £2m, sef cyfanswm o £3.8m o gostau prosiect.

Mae £70m o gyllid cyfalaf wedi’i ddarparu i landlordiaid cymdeithasol drwy’r Rhaglen Ôl-osod wedi’i Optimeiddio yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24 ac mae cyfnod paratoi ar waith ar gyfer cynllun ôl-osod cartrefi ar gyfer perchen-feddianwyr.

Buddsoddodd y cynllun Byw yn Glyfar ar gyfer arloesi datgarboneiddio £238,000 mewn prosiectau dichonoldeb Contractau ar gyfer Arloesi hydrogen rhwng mis Chwefror 2023 a mis Mawrth 2024. Dyfarnwyd £400,000 arall i bedair her ranbarthol drwy’r SBRI newydd Ymchwil Systemau Cyfan ac Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio (WSRID) ym mis Hydref 2024.

Mae Her Amonia Contract Arloesedd yn parhau i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn allyriadau amonia o wartheg. Sicrhawyd £1m gan Lywodraeth Cymru hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025. Bydd pum cwmni yn rhannu cyllid ac maent yn y broses o gynnal prawf maes 12 mis llawn o’u cynhyrchion a’u methodolegau.

Ym mis Tachwedd 2024, fe wnaethom hefyd lansio elfen Coedwigaeth a Phren y Rhaglen Sgiliau Hyblyg, gan gynnig £280,000 i gefnogi busnesau i gael mynediad at hyfforddiant ac uwchsgilio eu gweithwyr. Mae’r gronfa’n cefnogi busnesau yn y sectorau hyn yn ogystal â’u cadwyni cyflenwi, gan gynnwys gweithgynhyrchu pren uwch. Rydym am sicrhau bod sgiliau’n cael eu datblygu i alluogi mwy o ddefnydd o bren mewn adeiladu. Mae deall technoleg pren ar draws yr amgylchedd adeiledig yn hanfodol i adeiladu adeiladau carbon isel effeithlon yma yng Nghymru

Casgliad

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i olrhain hynt y cenadaethau, gan fyfyrio’n ôl ar yr hyn sydd wedi newid. Dyma’r diweddariad cynnydd cyntaf yn dilyn cyhoeddi’r strategaeth. Cynhelir gwerthusiad ffurfiol o’r strategaeth ym mlynyddoedd tri a phump i archwilio gweithrediad y strategaeth, ei chynnydd a’i heffeithiau.