Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £157 miliwn o gyllid newydd i gefnogi blaenoriaethau’r Prif Weinidog eleni. Mae’r cyllid ychwanegol yn cynnwys £21 miliwn ar gyfer offer diagnostig i’r GIG i helpu i dorri amseroedd aros, sy’n ychwanegol at becyn gwerth £50 miliwn a gyhoeddwyd fis diwethaf i gwtogi ar yr amseroedd aros hiraf. Bydd £20 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion a cholegau drwy raglen adeiladau ysgolion a cholegau Llywodraeth Cymru, Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, sydd yn ychwanegol at £30 miliwn a ddarparwyd eisoes eleni. Bydd £1 miliwn ychwanegol ar gyfer sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, a ddarperir drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a fydd yn cefnogi 60 o sefydliadau. Mae hyn yn ychwanegol at £1.5 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y sector ym mis Medi. Bydd cyllid arall yn cefnogi trafnidiaeth, tai a llywodraeth leol i greu swyddi gwyrdd a thwf. Bydd rhagor o fanylion am gyllid yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr wythnos hon. Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:
Ar ôl siarad â phobl ledled Cymru, nodais fy 4 blaenoriaeth, sy’n cynnwys torri’r amseroedd aros hiraf a chyflymu mynediad at driniaeth GIG. Bydd y cyllid ar gyfer offer diagnostig yn rhoi'r offer i'r GIG wneud hynny, gan helpu pobl i gael diagnosis a thriniaeth yn gyflymach. Rydym yn cyflawni’r hyn y mae pobl ei eisiau – ariannu ein GIG a thorri’r amseroedd aros hiraf, creu swyddi a gweithio i wella safonau addysg. Rwy’n benderfynol ein bod yn mynd ymhellach ac yn gweithio’n gyflymach, a bydd y cyllid ychwanegol hwn yn ein helpu i wneud yn union hynny yn y meysydd blaenoriaeth hyn.
Wrth siarad am y cyllid ychwanegol ar gyfer sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaethau Cymdeithasol:
Rwy’n falch o gyhoeddi cyllid ychwanegol eleni i ddiogelu swyddi a sefydliadau yn ein sector celfyddydol. Mae gennym sector celfyddydau cryf iawn yng Nghymru, sy’n datblygu ac yn cefnogi talent Cymreig o safon fyd-eang. Bydd y buddsoddiad hwn, ar gyfer 60 o sefydliadau celfyddydol gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Sain Wrecsam a Sefydliad y Glowyr Coed Duon, yn darparu cefnogaeth hanfodol i’n sefydliadau diwylliannol.
Mae’r pecyn cyllid newydd gwerth £157 miliwn – cyfuniad o refeniw a chyfalaf – ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol (2024-2025). Bydd y Gyllideb Ddrafft, sy'n nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2025-2026), yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth 10 Rhagfyr.