Mae mwy na chwarter biliwn o bunnoedd o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru wedi helpu pobl hŷn i gael gofal yn eu cartrefi eu hunain ac wedi osgoi miloedd o arosiadau diangen yn yr ysbyty. Mae tair rhaglen ariannu allweddol wedi rhoi hwb i ofal yn y gymuned ledled Cymru ac wedi atal galwadau ambiwlans a derbyniadau i’r ysbyty. Mae £146.2 miliwn wedi’i fuddsoddi drwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF) i helpu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar a chymunedol – gan gefnogi 600,000 o bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ochr yn ochr â hyn, mae £70 miliwn wedi’i fuddsoddi i ddatblygu hybiau cymunedol ledled Cymru, ac mae £60.5 miliwn arall hefyd wedi’i ddarparu i gefnogi pobl sydd angen gofal, cymorth ac adsefydlu i fyw’n annibynnol gartref. Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol:
Rydym am i bobl fyw eu bywydau gorau, iach ac annibynnol cystal â phosibl ac am gyhyd ag y bo modd, yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain. Cydnabyddir yn eang bod gofal cymunedol yn gwella canlyniadau’n sylweddol ar gyfer pobl hŷn a’r rheini ag anghenion cymhleth, ac mae ymchwil yn dweud wrthym fod pobl yn gwella’n well yng nghysur eu cartrefi eu hunain yn hytrach nag mewn ysbyty. Mae ein buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau yn y gymuned yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau yn y camau cynnar i gadw pobl yn iachach yn y tymor hir, gan helpu i atal derbyniadau ysbyty y gellir eu hosgoi.
Mae gwasanaethau fel Gofal a Thrwsio – a gefnogir gan Lywodraeth Cymru – wedi helpu i atal dros 3000 o dderbyniadau i’r ysbyty y llynedd ledled Cymru drwy addasiadau a thrwsio cartrefi. Gan ganolbwyntio ar wella diogelwch oedolion hŷn, mae'r tîm yn gwneud gwelliannau carlam i gartrefi sydd wedi'u teilwra i anghenion unigolyn, trwy nodi risgiau posibl ac atal anafiadau a allai arwain at fynd i'r ysbyty. Mae eu gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach wedi helpu i arbed tua £10 miliwn i GIG Cymru y llynedd drwy arbed 31,000 o ddiwrnodau gwely yng Nghymru drwy fynd i’r afael ag oedi wrth ryddhau cleifion. Daethpwyd o hyd i David Gale, 82 oed, ar lawr ei gartref gyda chyfradd curiad y galon hynod o isel a chafodd ei dderbyn i Ysbyty Tywysoges Cymru, lle gosodwyd rheolydd calon arno. Roedd ei deulu’n pryderu na fyddai’n cael y cymorth cywir o gwmpas y tŷ ar ôl iddo gael ei ryddhau, ac y gallai ei symudedd cyfyngedig arwain at risg uwch o gwympo. Cysylltwyd â thîm Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr trwy'r gwasanaeth O'r Ysbyty i'r Cartref ac ymwelodd â David yn ei gartref y diwrnod ar ôl iddo gael ei ryddhau i asesu ei anghenion. Gweithiodd y tîm yn gyflym i wneud addasiadau i wella hygyrchedd ac annibyniaeth David, megis gosod rheilen grisiau a chanllawiau dur yn yr awyr agored. Dywedodd David:
Mae Gofal a Thrwsio wedi helpu cymaint. Maent wedi gosod rheiliau o amgylch ein cartref, mae ein dreif yn serth iawn ac mae'r rheilen sydd wedi'i gosod wedi ein helpu i fynd allan o'r tŷ yn ddiogel ac rydym yn teimlo'n llawer mwy hyderus pan fyddwn yn mynd allan nawr. Gosodwyd rheiliau cydio yn yr ystafell ymolchi i'n helpu i fynd i mewn ac allan o'r bath, rheilen ar y grisiau felly mae gennym un bob ochr yn awr sy'n helpu llawer ac yn ei gwneud yn fwy diogel i ni wrth fynd i fyny ac i lawr y grisiau. Rydym hefyd wedi cael un yn yr ardd gefn i'n helpu i gyrraedd y sied a'r toiled awyr agored yn fwy diogel. Fe wnaethant hefyd osod llinell achub Teleofal. Teimlwn, heb i'r addasiadau hyn gael eu gwneud, y byddem wedi gorfod edrych ar opsiynau eraill. Felly, i ni allu aros yn ein cartref, lle rydym wedi magu ein plant, cael cymaint o atgofion hapus a rhai cymdogion hyfryd, yn ein gwneud ni mor hapus. Ni allwn feio'r cymorth a gawsom gan Gofal a Thrwsio. Mae wedi ein helpu i deimlo’n fwy diogel wrth fynd o gwmpas ein cartref ac rydym mor ddiolchgar iddynt am bopeth y maent wedi’i wneud i ni.
Dywedodd Kelly Williams, uwch weithiwr achos o Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr:
Mae gwasanaeth Gofal a Thrwsio o'r Ysbyty i'r Cartref yn gwella llif cleifion ac yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl yn cael eu haildderbyn i'r ysbyty. Mae'r gwasanaeth yn nodi cleifion sydd â phryder tai a allai oedi cyn dychwelyd adref. Yna mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, cleifion a'u teuluoedd i wneud y gwelliannau cartref sydd eu hangen i alluogi rhyddhau cyflym a diogel. Ar gyfer Mr Gale, roeddem yn hapus i gefnogi ei ryddhau o'r ysbyty trwy osod addasiadau a Theleofal yn ei gartref gan ein Swyddog Diogelwch Cartref, sy'n cael ei ariannu trwy ein Gwasanaeth Tasgmon Ymateb Cyflym RIF. Afraid dweud bod cael cartref diogel a chynnes yn hanfodol i iechyd a lles da. Mae cartref diogel a chynnes yn hanfodol i unrhyw un sy'n cael ei ryddhau fel y gallant barhau i wella. Gall tai anniogel neu wael effeithio'n sylweddol ar iechyd meddwl a chorfforol ac felly mae'n hanfodol bod tai yn cael eu hystyried fel rhan o daith rhyddhau claf.
Mae 91% o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau Gofal a Thrwsio yn dweud bod eu hannibyniaeth wedi gwella ac mae llawer yn dweud eu bod yn teimlo'n llai unig. Yn genedlaethol, y llynedd arbedodd Gofal a Thrwsio tua £25,000,000 i GIG Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dros £850,000 oherwydd bod angen llai o dderbyniadau i’r ysbyty a llai o alwadau ambiwlans. Ychwanegodd y Gweinidog:
Mae’r tîm Gofal a Thrwsio yn enghraifft wych o wasanaeth yn y gymuned, sy’n gwneud gwahaniaeth radical i fywydau’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, trwy eu hagwedd gyfannol at ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rwy’n falch bod ein cyllid gan Lywodraeth Cymru fel y Gronfa Integreiddio Ranbarthol a’r Gronfa Tai â Gofal yn helpu sefydliadau fel Gofal a Thrwsio i barhau â’u gwaith amhrisiadwy o ran cadw pobl yn iach a galluogi pobl i gael eu rhyddhau o’r ysbyty cyn gynted â phosibl i wella, lle maent yn gwneud hynny orau, gartref. Mae ein cyllid hefyd yn helpu i atal pobl rhag cael eu derbyn a'u haildderbyn i'r ysbyty, sydd wedi bod yn hanfodol i leddfu'r pwysau a deimlir gan wasanaethau iechyd cyn y gaeaf.