Mae MediWales yn cynnal eu cynhadledd Connects flynyddol ar 18 Mehefin 2026 yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd.

Cefnogir MediWales Connects gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Bydd cydweithwyr y GIG o bob cwr o Gymru, cwmnïau lleol, grwpiau ymchwil a’r sector diwydiant ehangach yn ymuno i rannu arloesedd clinigol mewn ymarfer er mwyn gwella canlyniadau cleifion.

Mae’r gynhadledd yn cynnwys arddangosfa, cyflwyniadau allweddol, arddangosfeydd a gweithdai, a chyfleoedd i rwydweithio.

Prif siaradwyr ar gyfer 2026:

Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar - Jacqueline Totterdell

Prif Swyddog Meddygol Cymru - Isabel Oliver

Nodau’r gynhadledd yw:

  • Amlygu ac arddangos y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan y cymunedau iechyd a gofal yng Nghymru.
  • Gwella cydweithio rhwng y byrddau iechyd, y diwydiant a chymunedau ymchwil.
  • Codi proffil GIG Cymru ac arloesi clinigol ledled y DU.
  • Cefnogi perthnasoedd gwaith agosach rhwng y diwydiant, y GIG a grwpiau ymchwil a galluoedd treialon clinigol.
Mae yna lawer o ffyrdd i gymryd rhan yn y digwyddiad - cysylltwch â ni yma neu ewch i’n gwefan i gael gwybod mwy!