Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu cyflenwad helaeth o wasanaethau clinigol ac arbenigeddau i boblogaeth o tua 460,000 o bobl ar draws Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a'r siroedd cyfagos. Mae gwasanaethau clinigol yn cynnwys gofal aciwt/argyfwng, cleifion allanol, iechyd meddwl, gofal sylfaenol, iechyd y boblogaeth, therapïau, rheoli meddyginiaethau a diagnosteg a ddarperir gan dros 13,500 o staff ar draws tri ysbyty acíwt, ysbytai cymunedol, 50 o sefydliadau meddygon teulu a gwasanaethau cymunedol. Mae Canolfan Ymchwil Glinigol bwrpasol yn Llantrisant yn darparu gofod dynodedig ar gyfer gweithgaredd ymchwil.