Roedd yn noson arall o lwyddiant i dîm nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda dau enillydd ac un yn ail yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) Cymru eleni.
Cynhaliwyd y gwobrau blynyddol mawreddog yng Nghaerdydd ddydd Iau 21 Tachwedd 2024 i ddathlu’r arloesedd a’r rhagoriaeth mewn ymarfer, gan gydnabod ymdrechion, ymrwymiad a chyflawniadau rhagorol ein cymuned nyrsio ledled Cymru.
Llongyfarchiadau mawr i Claire Hurlin, Pennaeth Strategol Cymunedol a Rheoli Cyflyrau Cronig, a enillodd y Wobr Cyflawniad Oes a Donna Major, Uwch Brif Nyrs Ward, enillydd Gwobr Nyrs Gofrestredig (Oedolion). Daeth Bianca Oakley, Uwch Ymarferydd Nyrsio Arweiniol yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, yn ail yng Ngwobr Prif Swyddog Nyrsio Cymru.
Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion Dros Dro yn y bwrdd iechyd: “Rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn bod ein nyrsys yn Hywel Dda wedi cael eu cydnabod eto yn y digwyddiad blynyddol hwn. Mae’r gwobrau’n rhoi cyfle gwych i nyrsys, myfyrwyr, gweithwyr cymorth a bydwragedd arddangos y gwahaniaeth y maent yn ei wneud i fywydau’r bobl yr ydym yn gofalu amdanynt. Llongyfarchiadau i chi gyd.”
Enillodd Claire Hurlin, Pennaeth Strategol Cymunedol a Rheoli Cyflyrau Cronig y Wobr Cyflawniad Oes am ei gwaith i adeiladu treial nyrs rhyngwyneb asthma, gan gysylltu fferyllfa, gofal sylfaenol a gofal asthma anodd arbenigol. O ganlyniad, mae'r tîm wedi ehangu, gan olygu bod mwy o gleifion yn cael triniaethau arbenigol.
Dywedodd: “Mae’n fraint wirioneddol derbyn y wobr hon. Rwy’n ddiolchgar i fod mewn proffesiwn yr wyf yn angerddol amdano a chefais y cyfle i weithio gyda chymaint o nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud gwahaniaeth.”
Donna Major, Uwch Brif Nyrs Ward, enillydd Gwobr Nyrs Gofrestredig (Oedolyn) am ei gwaith i wella gofal cleifion eiddilwch a dementia. Archwiliodd ffyrdd arloesol o wella diogelwch a chanlyniadau i gleifion ar y ward eiddilwch, a oedd yn cynnwys rowndiau ysgytlaeth, hydradu, hunanwasanaeth byrbrydau, garddio, clwb llyfrau a chinio. Roedd hi hefyd yn ganolog i sefydlu'r Uned Asesu Eiddilwch a gweithgareddau wythnosol 'Celf mewn Iechyd' ar gyfer cleifion mewnol sy'n byw gyda dementia yn Ysbyty Glangwili.
Meddai: “Cefais sioc ac wrth fy modd yn derbyn y wobr hon ac roedd yn noson fendigedig, ysbrydoledig iawn yn tynnu sylw at ein gweithlu nyrsio gwych yng Nghymru a’r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar ofal cleifion bob dydd.”
Daeth Bianca Oakley, Uwch Ymarferydd Nyrsio Arweiniol yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, yn ail yng Ngwobr Prif Swyddog Nyrsio Cymru am ei gwaith yn datblygu Gwasanaeth Gofal Brys Cymunedol ar yr Un Diwrnod. Mae hyn wedi helpu i roi mynediad i gleifion at ofal yn nes at eu cartrefi ac wedi lleihau'r pwysau ar safleoedd ysbytai cyffredinol. Mae hi hefyd yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil fel profion pwynt gofal mewn ardaloedd anghysbell i wella a galluogi gofal diogel amserol i gael ei ddarparu i gleifion, yn nes at eu cartrefi.
Ychwanegodd “Roedd yn fraint fawr cael dod yn ail am yr ail flwyddyn yn olynol yn y gwobrau hyn. Rwy’n hynod falch o’n tîm yng ngwasanaeth Gofal Brys ac Allgymorth yr Un Diwrnod Ceredigion sydd wedi gweithio’n ddiflino dros y tair blynedd diwethaf i ddarparu gofal uwch yn nes at adref. Dim ond oherwydd eu gwaith caled a’u hymroddiad y bu modd cael eu henwebu.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr enillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ewch i:
Enillwyr Gwobr Nyrs y Flwyddyn 2024 | Cymru | Coleg Brenhinol y Nyrsys (yn agor mewn tab newydd)