Mae Dr Emily Bates, sy'n rhan o'r Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, wedi dechrau gweithio fel rhan o Gymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol Elusen Tiwmor yr Ymennydd. Bydd hi’n gweithio ar ymchwil sy’n archwilio a yw firysau clyfar yn effeithiol wrth drin math ymosodol o ganser yr ymennydd o’r enw Glioblastoma (GBM), nad oes iachâd ar ei gyfer ar hyn o bryd. Bydd Dr Bates, sy'n rhan o grŵp Imiwnotherapïau Feirysol a Therapiwteg Uwch (VITAL) ym Mhrifysgol Caerdydd, yn derbyn cyllid o £225,000 dros dair blynedd ac mae'n un o ddim ond pum Cymrawd a ddewiswyd ledled y byd. Mae ei gwaith yn defnyddio firysau oncyloctig i dargedu celloedd GBM a’u lladd heb niweidio celloedd iach.
Rwy'n falch iawn o fod yn un o bum ymchwilydd i dderbyn y Gymrodoriaeth hon gan Elusen Tiwmor yr Ymennydd. Mae archwilio 'firysau clyfar' sy'n chwilio am gelloedd tiwmor ac yn eu lladd yn unig yn cynnig llwybr newydd ar gyfer triniaeth a allai newid llawer o fywydau. Emily Bates
Glioblastoma yw'r tiwmor ymennydd sylfaenol mwyaf cyffredin mewn oedolion ac mae'n arbennig o beryglus gan y gall osgoi'r system imiwnedd, gan ei gwneud yn anoddach ei drin. Gall y mathau o firws y mae Dr Bates yn eu defnyddio yn ei hymchwil wahaniaethu rhwng celloedd canseraidd ac iach, fel y gallant osgoi achosi niwed. Mae firysau oncolytig wedi cael eu profi yn flaenorol i drin mathau eraill o ganser.
Mae’r gymrodoriaeth hon yn gyfle gwych i Emily ddatblygu ei gyrfa wrth gyfrannu at ddatblygu therapïau y mae dirfawr eu hangen ar gyfer glioblastoma. Mae hefyd yn cyd-fynd â phennod gyffrous ar gyfer ymchwil canser yng Nghaerdydd, wrth i ni baratoi i lansio ein strategaeth ganser newydd a Chanolfan Ymchwil Canser Caerdydd y gwanwyn hwn, gydag ymchwil canser yr ymennydd yn chwarae rhan ganolog yn ein gweledigaeth. Yr Athro Awen Gallimore, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau
Mae Elusen Tiwmor yr Ymennydd wedi ariannu dwy gymrodoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd trwy eu rhaglen Arweinwyr y Dyfodol. Mae'r gymrodoriaeth yn cynnig £75,000 y flwyddyn am dair blynedd.