Mae technoleg arloesol, sy’n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cael ei threialu yn Nolgellau er mwyn caniatáu i gleifion gasglu meddyginiaeth frys ar adegau pan fydd fferyllfeydd lleol ar gau.
Mae’r peiriant REMEDY yn brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â’r gwneuthurwr, cyflenwr a Phrifysgol Rhydychen.
Mae gwneud meddyginiaethau’n fwy hygyrch i gleifion yn hanfodol i leihau’r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau a gwasanaethau brys.
Yn ystod y treial dwy flynedd, bydd pobl sy’n cysylltu â GIG 111 y tu allan i oriau ac sydd angen meddyginiaeth ar frys yn cael cynnig yr opsiwn i’w gasglu’n uniongyrchol o’r peiriant y tu allan i Ysbyty Dolgellau trwy god unigryw.
Dywedodd Dr Adam Mackridge, Arweinydd Strategol ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’n syml iawn a bydd o fudd enfawr i’r boblogaeth yn ardal Dolgellau sydd gryn bellter o wasanaethau eraill, yn enwedig ar benwythnosau a gyda’r nos.
“Mae hwn yn gydweithrediad cadarnhaol iawn i geisio helpu i wella tegwch o ran mynediad at feddyginiaethau a lleihau anghydraddoldebau iechyd.”
Dywedodd Dr Rebecca Payne, Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau ac Academydd Clinigol: “Mae’r peiriant hwn wedi’i ddatblygu’n benodol ar gyfer y prosiect gyda’r gwneuthurwr, Videosystems, a’r cyflenwr, Omnicell, mewn partneriaeth â’r Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd. Er ei fod wedi’i addasu o dechnoleg sy’n bodoli eisoes, mae ei ddefnyddio fel hyn yn gam cyntaf Ewropeaidd.”
“Mae’n wych gweld Gogledd Cymru yn arwain y ffordd, yn datblygu technoleg flaengar a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig fel Dolgellau.”
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni a Chyd-Gyfarwyddwr Dros Dro yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rydym unwaith eto yn falch o allu darparu cyllid ar gyfer ystod o ddyfarniadau personol a phrosiect a fydd yn cefnogi datblygiad ein hymchwilwyr tra’n mynd i’r afael â meysydd pwysig o angen iechyd a gofal.”