Dyddiad: Dydd Gwener 6 Mehefin 2025
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Ar-lein
Cofrestrwch yma .

Mae’n bleser gan y Grŵp Arloesi a Gwella Gwasanaethau Strôc (rhan o’r Rhwydwaith Gweithredu Strôc Cenedlaethol, Gweithrediaeth GIG Cymru) eich gwahodd i weithdy ar-lein sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau strôc. Nod y gweithdy hwn yw ymgysylltu â staff GIG Cymru a thrydydd partïon dethol nad ydynt yn rhan o’r diwydiant, fel y Gymdeithas Strôc a grwpiau cleifion, wrth ddiffinio ac ehangu ar yr heriau a gyflwynwyd i Is-grŵp Arloesi a Gwella Gwasanaethau Rhwydweithiau Gweithredu Strôc.

Mae cyllid posibl ar gael i gefnogi prosiectau arloesol sy’n mynd i’r afael â’r heriau hyn. Yn ogystal â diffinio’r heriau hyn, rydym yn chwilio am unigolion ymgysylltiedig sy’n barod i helpu i yrru unrhyw brosiectau yn eu blaen yn y meysydd y maent hwy neu eraill wedi’u cyflwyno. Gallai eich cyfranogiad arwain at ddatblygiadau sylweddol mewn gofal strôc a gweithredu technoleg yng Nghymru.

Agenda:

1. Croeso a Chyflwyniad (10 munud)

2. Cyflwyniad o Heriau Strôc wedi’u cyflwyno (20 munud)

3. Trafodaeth Gydweithredol (45 munud)

  • Trafodaeth agored ar yr heriau a gyflwynwyd
  • Nodi bylchau a chynnig agweddau neu gategorïau newydd

4. Cynllunio Gweithredu (10 munud)

5. Sylwadau Cloi (5 munud)