Mae tri prosiect arloesol i wella gofal strôc ledled Cymru wedi derbyn cyllid yn dilyn Symposiwm Technoleg Strôc cyntaf erioed y wlad (bosib y byd!).

Daeth dros 160 o glinigwyr, arloeswyr digidol a thechnolegol, ac arweinwyr gofal iechyd ynghyd i archwilio sut y gall technoleg fynd i’r afael â heriau go iawn mewn gwasanaethau strôc.

Y canlyniad oedd tri prosiect cydweithredol a fydd yn gwneud adsefydlu ac adferiad yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithiol i oroeswyr strôc a’r timau sy’n eu cefnogi.

Dywedodd Dr Shakeel Ahmad, Arweinydd Clinigol Strôc GIG Cymru:
“Mae’n galonogol gweld tri prosiect arloesol yn symud ymlaen, pob un â’r potensial gwirioneddol i wella gofal strôc i gleifion a staff ledled Cymru. Creodd y Symposiwm Technoleg Strôc y sbardun ar gyfer y gwaith hwn drwy ddod â phobl ynghyd, cynhyrchu syniadau a dangos yr hyn sy’n bosibl pan fydd clinigwyr a phartneriaid diwydiant yn cydweithio. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r prosiectau hyn yn datblygu a’r effaith y gallant ei chael ar ganlyniadau i gleifion.”

Y prosiectau yw:


Monitro Gweithgarwch Parhaus ac Asesu Symudiadau – Agile Kinetic a Susan Wilson, Therapydd Ymgynghorol Strôc, BIP Bae Abertawe

Bydd y prosiect hwn yn gwella system asesu symudiadau sy’n seiliedig ar ffônau-clyfar drwy ychwanegu monitro gweithgarwch 24/7.

Beth mae hyn yn ei olygu i gleifion:

  • galluogi clinigwyr i weld gweithgarwch cleifion drwy’r dydd, nid yn unig yn ystod apwyntiadau
  • cynlluniau adsefydlu mwy personol ac ymatebol
  • monitro a chefnogaeth fwy cyson i gleifion mewn ardaloedd gwledig neu gymunedol
  • adnabod problemau neu gamau’n ôl yn gynharach, gan helpu adferiad i aros ar y trywydd iawn

Dywedodd Susan Wilson, Therapydd Ymgynghorol Strôc, BIP Bae Abertawe: “Bydd y cyllid hwn yn rhoi cyfle inni weithio’n gydweithredol i ddatblygu ateb digidol i fonitro lefelau gweithgarwch i oroeswyr strôc. Bydd y dechnoleg yn ein galluogi i olrhain gweithgarwch yn yr ysbyty ac yn y gymuned, gan ein helpu i fonitro unigolion ac addasu rhaglenni triniaeth i ddiwallu eu hanghenion.”


Ysgogiad Trydanol Ffaryngol (PES) ar gyfer Dysffagia – Natalie Lennard, Arweinydd Clinigol Therapi Lleferydd ac Iaith, Adsefydlu Strôc, BIP Caerdydd a’r Fro

Bydd BIP Caerdydd a’r Fro yn cyflwyno Phagenyx, triniaeth an-ymledol, ddiogel ar gyfer dysffagia ar ôl strôc.

Beth mae hyn yn ei olygu i gleifion:

  • adferiad cyflymach a mwy diogel o swyddogaeth llyncu
  • llai o risg o niwmonia dyhead a chymhlethdodau eraill
  • llai o gleifion yn gorfod defnyddio tiwbiau bwydo
  • cyfnodau byrrach yn yr ysbyty a gwell ansawdd bywyd
  • mynediad at opsiwn triniaeth nad yw ar gael ar hyn o bryd yn y rhan fwyaf o wasanaethau strôc

Prototýp Ymchwil: Llwyfan Digidol Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Adsefydlu’r Aelod Uchaf ar ôl Strôc – ReNeural a Sushmita Mohapatra, Therapydd Ymgynghorol, Gwasanaethau Strôc, BIP Betsi Cadwaladr

Bydd y prosiect hwn yn datblygu llwyfan digidol dwyieithog i gefnogi hunan-ymarfer adsefydlu’r aelod uchaf sydd wedi’i effeithio gan strôc, gartref ac yn yr ysbyty.

Beth mae hyn yn ei olygu i gleifion:

  • ymarferion personol wedi’u teilwra i nodau a gally pob unigolyn
  • hunanfonitro cynnydd gyda nodiadau atgoffa ac anogaeth i gynnal ymgysylltiad
  • cefnogaeth bell gan glinigwyr, gan leihau’r galw ar adnoddau’r GIG a lleihau bylchau mewn gofal ar ôl cael eich rhyddhau
  • gwell parhad rhwng adsefydlu yn yr ysbyty ac adsefydlu gartref
  • mwy o gyfleoedd i ymarfer, sy’n allweddol i adennill symudiad a pharhad adferiad yn y tymor hir

Dywedodd Sushmita Mohapatra, Therapydd Ymgynghorol, Gwasanaethau Strôc, BIP Betsi Cadwaladr: “Mae derbyn cyllid ar gyfer ein prosiect yn hynod gyffrous. Mae adferiad yr aelod-uchaf yn faes lle mae llawer o oroeswyr strôc yn ei chael hi’n anodd cael cefnogaeth gyson, yn enwedig ar ôl gadael yr ysbyty. Mae datblygu llwyfan digidol AI a all arwain, ysgogi a chysylltu cleifion â chlinigwyr yn cynnig y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w taith adfer. Rwy’n falch iawn y gallwn symud y gwaith hwn yn ei flaen.”

Dewiswyd y prosiectau drwy broses asesu gystadleuol, gyda phanel o arbenigwyr clinigol, digidol ac arloesi yn adolygu pob cynnig yn erbyn meini prawf clir gan gynnwys budd i gleifion, dichonoldeb, arloesedd a photensial i gael effaith ledled Cymru.

Dywedodd Niki Turner, Arweinydd y Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Cynghori ar gyfer Strôc GIG Cymru: “Mae’r cyfle i gydweithwyr clinigol ddisgrifio eu heriau’n llawn ac i weithio mewn partneriaeth â’i gilydd ac â phartneriaid diwydiant yn cael ei groesawu’n fawr. Mae hwn wedi bod yn gyfnod hynod gyffrous i wasanaethau strôc yng Nghymru, yn enwedig gan fod y prosiectau llwyddiannus i gyd yn canolbwyntio ar adsefydlu ac adferiad o strôc. Rwy’n edrych ymlaen at weld y canlyniadau ac, yn gobeithio, rhagor o fuddsoddiadau yn y dyfodol.”

Dywedodd Siôn Charles, Pennaeth Strategaeth a Chynllunio Gwasanaethau yn y Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol De Orllewin Cymru: “Mae’r prosiectau hyn yn dangos yn union beth all ddigwydd pan fydd timau clinigol a phartneriaid technoleg yn dod ynghyd gyda phwrpas cyffredin. Creodd y Symposiwm y gofod ar gyfer trafodaeth onest a meddwl creadigol, ac mae’n gyffrous gallu cefnogi’r syniadau hyn wrth iddynt ddatblygu’n atebion go iawn ar gyfer gofal strôc yng Nghymru.”

Cynhaliwyd y Symposiwm Technoleg Strôc gyda chefnogaeth GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, y Grŵp Cenedlaethol Arloesi a Gwella Strôc, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, MediWales a Phwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol De Orllewin Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Watkins ar 07854 386054 neu e-bostiwch info@alisonwatkinscommunications.com