Mae’r adroddiad hwn yn mynd i’r afael â’n tirwedd demograffig newidiol, gan gydnabod y cynnydd mewn anweithgarwch economaidd oherwydd salwch, poblogaeth sy’n heneiddio, ac anghydraddoldebau iechyd sy’n ehangu a waethygir gan ffactorau cymdeithasol-economaidd ac amgylcheddol. Rydym yn cynnig strategaeth gydweithredol, cymdeithas gyfan, gan integreiddio iechyd y cyhoedd, atal salwch, a chymorth cymunedol ar draws pob sector. Mae’r model arfaethedig hwn yn hyrwyddo dulliau newydd beiddgar, gan bwysleisio pwysigrwydd data, technoleg, a gweithlu medrus wrth greu system gynaliadwy a deinamig sy’n addas ar gyfer y dyfodol, tra’n anrhydeddu egwyddorion sylfaenol y GIG.
Adroddiad llawn: Y Sylfeini ar gyfer Model Iechyd a Gofal y Dyfodol yng Nghymru